Prosiect Ymchwil
COGNATE. Cancer of the Oesophagus or Gastricus: New Assessment of the Technology of Endosonography
Noddwr: HTA
Graddfa Amser: Ebrill 2004 - Ebrill 2008
Categori: Treialon economaidd a chlinigol
Cydweithwyr: Yr Athro Ian Russell, Yr Athro Kenneth Park (Aberdeen Royal Infirmary), Mrs Ceri Bray, Dr Rhiannon Tudor Edwards, Dr David Ingledew, Dr Dyfrig Hughes, Dr Daphne Russell, Mrs Rhiannon Whitaker
Statws: Ar y gweill
Prif amcanion yr astudiaeth yw pennu effeithiau darganfod cyfnod drwy uwchsain endosgopig (EUS), o gymharu â gweithdrefnau safonol, ar ddethol triniaeth i gleifion â chanser y stumog a’r oesoffagws, ac amcangyfrif effaith darganfod cyfnod drwy uwchsain endosgopig ar ddeilliant gofal cleifion â chanser y stumog a’r oesoffagws. Bydd yr elfen economeg iechyd yn asesu cost effeithiolrwydd EUS drwy gymharu gwahaniaethau mewn deilliannau cleifion gyda chost ychwanegol y dull gweithredu. Ar hyn o bryd, mae’r cam peilot wedi dechrau gyda 5 safle wedi cofrestru, a mwy o safleoedd yn y broses gofrestru.