Prosiect Ymchwil

Ymchwilio i ffactorau sy’n dylanwadu ar ddewisiadau defnyddwyr i ymweld â naill ai meddygon teulu neu fferyllwyr cymunedol wrth reoli mân anhwylderau – cynnal arbrawf dewis arwahanol.

Ymchwiliwr: Dr Dyfrig Hughes

Noddwr: Royal Pharmaceutical Society of Great Britain

Graddfa Amser: Ionawr - Rhagfyr 2005

Categori: Ysgogi ffafriaeth

Cydweithwyr: Susan Myles, Mirella Longo, Prifysgol Morgannwg

Statws: Wedi’i chyllido

Yn y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd newid amlwg mewn polisi iechyd tuag at annog mwy o hunanofal wrth drin mân anhwylderau. Mae astudiaethau diweddar yn dangos bod cyflenwi meddyginiaethau’n uniongyrchol i ddefnyddwyr o fferyllfeydd cymunedol, ar draws amrywiaeth ddiffiniedig o gyflyrau, gyda meddyginiaethau’n cael eu cyflenwi am ddim i ddefnyddwyr sydd wedi eu heithrio o dalu presgripsiwn, yn gallu effeithio ar amnewidiadau llwyddiannus a throsglwyddo baich gwaith mân anhwylderau o feddygon teulu i fferyllfeydd cymunedol. Nod yr astudiaeth hon yw ysgogi ffafriaeth ymhlith defnyddwyr gan ddylanwadu ar ddewisiadau defnyddwyr i ymweld â meddygon teulu neu fferyllfeydd cymunedol i drin mân anhwylderau. Caiff pedwar grwp ffocws, yn cynnwys deg o bobl ymhob un, eu samplu (n=40), yn cynnwys defnyddwyr sy’n arddangos amrywiaeth o nodweddion cymdeithasol-ddemograffig a chymdeithasol economaidd. Anfonir holiadur drwy’r post at sampl ar hap o’r rhai hynny ar y gofrestr pleidleiswyr mewn un ardal Bwrdd Iechyd Cymru. Defnyddir arbrofion dewis arwahanol lle gofynnir i ymatebwyr ddewis rhwng gwasanaethau eiledol (meddyg teulu yn erbyn fferyllydd), wedi’i ddiffinio yn nhermau eu rhinweddau. Mae priodoleddau gwasanaethau sy’n berthnasol i ddewisiadau defnyddwyr i ymweld â naill ai meddygon teulu neu fferyllwyr cymunedol i reoli mân anhwylderau yn cynnwys e.e. amseroedd aros, costau mynediad i ddefnyddwyr, preifatrwydd ymgynghori a gwybodaeth broffesiynol.