Prosiect Ymchwil

Project Iechyd Teuluoedd Amaethyddol

Prif ymchwilydd economeg iechyd: Barry Hounsome

Ymgeiswyr: RT Edwards, G Edwards-Jones, JMG Williams, G Wilkinson

Swm y grant: £120,000

Corff dyfarnu: WORD

Cyfnod y project: Hydref 2001 – Medi 2004

Project tair blynedd sy’n edrych ar iechyd teuluoedd amaethyddol yng Nghymru yw hwn. Ei nod yw cysylltu materion yn ymwneud ag iechyd corfforol a meddyliol teuluoedd amaethyddol â’r amodau economaidd anodd y mae’r sector amaethyddol wedi eu wynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae incymau a gynhrychir o ffermio wedi gostwng yn enbyd yn ddiweddar. Darganfu adroddiad gan y cyfrifwyr Deloitte and Touche ar archwiliad o ffermwyr yn gweithio 250,000 o erwau, yn bennaf yn Lloegr, bod incymau fferm wedi gostwng 90 y cant yn y pum mlynedd hyd at 2000. Mae’r argyfwng ariannol cynyddol yn y sector amaeth wedi dod â phroblemau iechyd ymysg ffermwyr i gryn amlygrwydd, yn arbennig anhwylderau seicolegol a achosir gan straen, poen meddwl ac iselder ysbryd. O ystyried swyddogaeth ddeuol y rhan fwyaf o ffermydd fel busnes a chartref, mae tueddiadau economaidd yn y sector amaethyddol yn debygol o effeithio ar iechyd a lles y teulu amaethyddol yn gyffredinol. Er bod llawer o dystiolaeth anecdotaidd ynglyn â straen mewn ffermydd teuluol, ychydig o dystiolaeth empiraidd sydd ar gael am ei effeithiau, neu am y defnydd y mae teuluoedd amaethyddol yn ei wneud o’r gwasanaethau iechyd. Gan bwyso ar arbenigedd sydd ar gael o fewn y Ganolfan Ymchwil Meddygaeth a Gofal (IMSCaR) a’r Ysgol Gwyddorau Amaeth a Choedwigaeth, nod y tîm ymchwil yw rhoi sylw i ddau brif gwestiwn:

1. A ydyw tueddiadau mewn busnes fferm ac iechyd yr amgylchedd yn rhagfynegi tueddiadau yn iechyd corfforol a meddyliol teuluoedd amaethyddol a’u defnydd o wasanaethau iechyd?

2. Sut y gellir goresgyn rhwystrau o ran mynediad at wasanaethau meddygol fel y gellir rhoi darpariaeth gofal iechyd fwy effeithiol i deuluoedd amaethyddol mewn rhannau anghysbell a gwledig o Gymru?