Prosiect Ymchwil

Gwerthusiad Gwasanaeth o Weithgarwch Telefeddyginiaeth yng ngogledd Cymru

Arweinydd y project
Rhiannon Tudor Edwards (r.t.edwards@bangor.ac.uk; 01248 382950)

Prif ymchwilydd Pat Linck (p.linck@bangor.ac.uk; 01248 382397)

Tîm y project

Bruce Napier a Catherine Robinson

Sefydliad

Canolfan Ymchwil Meddygaeth a Gofal, Prifysgol Bangor

Cyllid

Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru

Cefndir

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i degwch mynediad at wasanaethau iechyd i bobl Cymru. Mae cynigwyr telefeddyginiaeth yn dadlau eu bod yn galluogi ymgynghorwyr i flaenoriaethu eu llwyth gwaith, lleihau amser teithio a rhestrau aros, blaenoriaeth i ganserau. Mae ganddi fanteision penodol i gleifion mewn ardaloedd gwledig o ran llai o deithio. Dewiswyd gogledd Cymru fel un o’r projectau arddangosol ar gyfer telefeddyginiaeth yng Nghymru. Yn y lle cyntaf, bydd y project yn canolbwyntio ar unedau dermatoleg a mân anafiadau, cyn cael ei ehangu i wasanaethau eraill. Mae’n defnyddio technolegau cadw ac anfon ymlaen a fideo. Bwriadau ac Amcanion I wneud gwerthusiad gwasanaeth o deledermatoleg, bydd y gwerthusiad yn cwmpasu safleoedd teledermatoleg presennol a rhai newydd a ddaw’n weithredol yn ystod cyfnod casglu data’r astudiaeth. Prif amcanion y gwerthusiad yw: - Edrych ar dderbynioldeb teledermatoleg i gleifion, staff nyrsio, Meddygon Teulu a dermatolegwyr ymgynghorol

  • Edrych ar lefel boddhad cleifion mewn teledermatoleg
  • Nodi goblygiadau adnoddau telefeddyginiaeth i gleifion a’r GIG
  • Edrych ar effaith bosibl ymgynghoriadau telefeddyginiaeth ar lwybr y claf
  • Datblygu cyfrwng gwerthuso y gellir ei ddefnyddio i holl ymgynghoriadau telefeddyginiaeth

Y goblygiadau adnoddau o safbwynt y claf fydd yr amser aros am apwyntiad dechreuol, costau teithio ac amser o’r gwaith. O safbwynt y GIG, bydd yn ystyried costau sefydlu, costau cynnal blynyddol (llinellau ffôn, contractau cynnal a chadw), a chostau anuniongyrchol defnyddio amser y clinig ac amser teithio’r ymgynghorwyr.

Cynllun

Cynllun lluosogaethol gan ddefnyddio dulliau ansoddol a meintiol o gasglu a dadansoddi data a fydd yn cynnwys yr holl fudd-ddeiliaid allweddol.

Ymyrraeth

Bydd cleifion a gyfeirir at deledermatoleg yn cael eu gwahodd i lenwi holiadur a chymryd rhan mewn cyfweliad. Yr un modd, bydd Meddygon Teulu sy'n cyfeirio cleifion at deledermatoleg yn cael eu gwahodd i lenwi holiadur a chymryd rhan mewn cyfweliad. Bydd pob aelod staff y GIG sy’n ymwneud ag ymgynghoriadau teledermatoleg yn cael eu gwahodd am gyfweliad.

Mesur canlyniadau

Defnyddir holiaduron a chyfweliadau i gael barn a sylwadau yn unol â’r amcanion uchod. Bydd holiadur y claf yn cynnwys parodrwydd i dalu.

Data Meintiol

Bydd y data a gesglir yn rheolaidd, sy’n ymwneud â chysylltiadau cleifion gyda’r clinigau perthnasol, yn rhoi data gweithgarwch yn y clinigau. Bydd hyn yn galluogi cyfrifo costau o safbwynt y GIG gan gynnwys costau sefydlu, costau cynnal blynyddol a chostau anuniongyrchol o ddefnyddio amser y clinig ac amser teithio’r ymgynghorwyr. O safbwynt y claf, bydd y gwerthusiad yn ystyried costau teithio ac amser o’r gwaith. Gellir gwneud cymariaethau yn y costau a arbedir i’r claf a’r ymgynghorwr pe bai'n rhaid iddynt fod wedi teithio i’r ysbyty cyffredinol dosbarth.

Lleoliad

Ysbytai Cyffredinol Dosbarth, Ysbytai Cymunedol, Meddygfeydd Teulu a chartrefi cleifion

Statws cyfredol

Mae’r gwerthusiad wrthi’n cael ei wneud.

Gweithredu

Cyflwynir adroddiad terfynol i Fwrdd Project E-Iechyd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaethau GIG a Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Geiriau allweddol

telefeddyginiaeth, teledermatoleg, e-iechyd, parodrwydd i dalu, gwerthusiad economaidd