Prosiect Ymchwil
Amrywioldeb mewn ymateb i warffarin: dadansoddiad arfaethedig o ffactorau ffarmacogenetig ac amgylcheddol
Ymchwiliwr: Dr Dyfrig Hughes
Noddwr: Yr Adran Iechyd
Graddfa Amser: Hydref 2004 - Hydref 2007
Categori: Treialon economaidd a chlinigol
Cydweithwyr: Yr Athro Munir Pirmohamed, Yr Athro Kevin Park, Yr Athro Thomas Walley, Drs Paula Williamson, Vanessa Martlew, Cheng-Hok Toh (Prifysgol Lerpwl), Drs David Bentley, Jane Rogers, Panagiotis Deloukas (Sanger Institute), Drs Ann Daly, Kamali Farhad (Prifysgol Newcastle-upon-Tyne), Yr Athro David Fitzmaurice (Prifysgol Birmingham), Yr Athro Andrew Webster, Dr Graham Lewis (Prifysgol Efrog)
Statws: Ar y gweill
Mae warffarin yn ddelfrydol addas ar gyfer astudio defnyddioldeb clinigol ffarmacogeneteg oherwydd fe’i defnyddir yn eang (600,000 o gleifion yn y DU), mae’n achosi i bobl gael eu gosod mewn ysbyty oherwydd gwaedu, ac mae hannercanplyg amrywioldeb mewn gofynion dogni. Nid yw’r un o’r ffactorau a nodwyd hyd yn hyn sy’n pennu’r ymateb i warffarin o werth rhagfynegol digonol i fod o ddefnydd clinigol. Pwrpas yr astudiaeth arfaethedig hon sy’n cynnwys 2000 o gleifion, yw nodi’r ffactorau genetig ac amgylcheddol sy’n pennu amrywioldeb mewn ymateb i warffarin. Bydd y pwyntiau terfyn clinigol yn y cleifion yn gysylltiedig â marcwyr genotypig (o set o 25 o enynnau), y ffenoteip ffarmacolegol (lefelau warffarin), a ffenoteip haematolegol (ffactorau ceulo a fitamin K). Bydd yr holl ddata yn destun modelu PK-PD, a dadansoddiad cost effeithiolrwydd, a defnyddir methodoleg ansoddol i asesu’r hyn sydd orau gan gleifion a defnyddwyr. Caiff y ffactorau rhagfynegol eu dilysu mewn carfan annibynnol o 400 o gleifion a gaiff eu recriwtio o ofal sylfaenol. Y deilliant arfaethedig fyddai datblygu algorithm sy’n ddefnyddiol yn glinigol, a fydd yn helpu clinigwyr i unigoli therapi gwrthgeulol. Byddai manteision posibl hyn yn cynnwys: 1. Gwella diogelwch warffarin gyda llai o forbidrwydd a marwolaethau 2. Gwella ansawdd bywyd cleifion 3. Gwella cost effeithiolrwydd warffarin.