Prosiect Ymchwil

Asesiad economaidd ochr yn ochr â phrofion clinigol

Project Sir y Fflint: Dadansoddiad Cost-Effeithiol o Ymyrraeth Aml-Asiantaethol, Cymunedol ar gyfer Problemau Seicolegol mewn Plant Ifainc Oed Ysgol
Whendy: Endosgopi Mynediad Agored o Gleifion h.pylori positif â Dyspepsia mewn Meddygaeth Deuluol - A yw'n angenrheidiol?

Project Sir y Fflint: Dadansoddiad Cost-Effeithiol o Ymyrraeth Aml-Asiantaethol, Cymunedol ar gyfer Problemau Seicolegol mewn Plant Ifainc Oed Ysgol
Prif ymchwilydd economeg iechyd: Mariamma Thalanany
Ymgeiswyr: RT Edwards, C Wilkinson, P Appleton
Grant: £49,000
Corff Cyllido: WORD
Cyfnod y project: Ionawr 1999 - Chwefror 2001
Ymyrraeth aml-sector, yn seiliedig ar boblogaeth i wella iechyd meddwl plant. Mae'r asesiad economaidd hwn yn astudiaeth dwy flynedd yn gysylltiedig â phrawf pragmatig tair blynedd, sydd yn awr yn ei thrydedd flwyddyn a'r olaf. Gyda'i gilydd, mae'r astudiaethau hyn wedi cymharu effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd ymyrraeth sy'n cynnwys cydweithio rhwng GIG, gwasanaethau cymdeithasol, awdurdodau addysg lleol a'r sector gwirfoddol. Mae cyfansoddyn asesu economaidd yr astudiaeth wedi cynnwys cyfranu rhestr o'r gwasanaethau a ddefnyddir gan rieni, yn gofyn am yr amrywiaeth o wasanaethau iechyd, cymdeithasol ac addysgol mae teuluoedd yn eu defnyddio. Mae hefyd wedi cynnwys ymarfer costio cymhleth yn rhychwantu'r sectorau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg a gwirfoddol. Bydd y prif ymchwilydd, Mrs Mariamma Thalanany yn gadael yn Nhachwedd 2000 i ymuno â'i theulu yn Essex i gymryd cymrodoriaeth ymchwil ym Mhrifysgol East Anglia. Dymunwn yn dda iddi.

Project Whendy: Endosgopi Mynediad Agored o Gleifion h.pylori positif â Dyspepsia mewn Meddygaeth Deuluol - A yw'n angenrheidiol?
Prif ymchwilydd economeg iechyd: Maggie Hendry (CMPC Wrecsam)
Ymgeiswyr: C Wilkinson, Matthew Thalanany (cyd-ymgeisydd RT Edwards)
Grant: £113,000
Corff Cyllido: WORD
Cyfnod y project: Ionawr 1998 - Mehefin 2001
Mae'r prawf hwn wedi profi'n broblemus iawn o ganlyniad i gyfradd recriwtio annigonol. Fodd bynnag, mae'r grwp wedi ymuno â grwp cydweithiol profion dyspepsia Prydain ac yn gobeithio cyfrannu at feta-ddadansoddiad. Mae'r tîm Whendy wedi bod yn llwyddiannus mewn cael rhagor o gyllid i alluogi casglu gwybodaeth am gleifion sy'n defnyddio gwasanaethau yn y 12 mis yn dilyn triniaeth er mwyn cyfrannu at ddata economeg iechyd i feta-ddadansoddiad cynlluniedig y DU. Gwnaed dadansoddiad sylfaen o statws economaidd-gymdeithasol y rhai dan sylw a defnydd o baratoadau dros-y-cownter.