Newyddion a Digwyddiadau

Llongyfarchiadau mawr i’r myfyrwyr am wneud cyflwyniadau gwych ar economeg iechyd yn y newyddion!

Project cerddoriaeth Codi’r To yn dod â harmoni i’r cartref a gwerth cymdeithasol i ysgolion a chymunedau

Mae arfarniad economeg o werth Sistema Cymru - Codi’r To, menter gerddorol mewn dwy ysgol yng Ngwynedd, yn datgelu bod gwerth y project  yn ymestyn ymhell tu hwnt chwarae offeryn cerddorol, ac wedi  arwain at well harmoni i nifer o’r cartrefi  a fu’n  cymryd rhan. Darllen mwy yma.

Cwmnïau fferyllol yn gwneud elw ar afiechydon prin

Mae ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Bangor yn dangos fod cwmnïau fferyllol yn ymelwa ar gymhellion a fwriadwyd i ddatblygu rhagor o driniaethau ar gyfer afiechydon prin er mwyn rhoi hwb i'w helw.

Gwybodaeth pellach yma.

Trawsnewid Bywydau Pobl Ifanc - y ddadl economaidd dros fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar, adroddiad a lansiwyd heddiw gan CHEME

Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at dystiolaeth bod y sylfeini ar gyfer ffynnu wedi'u gosod ymhell cyn genedigaeth, ac mae'r amser pwysig i fuddsoddi yw cyn cenhedlu ac yn ystod beichiogrwydd cynnar. Mae gan Gymru eisoes gyfeiriad polisi a buddsoddiad sylweddol mewn rhaglenni ac arferion sy'n ymwneud â'r blynyddoedd cynnar. Er mwyn adeiladu ar hyn, bûm yn edrych ar y dystiolaeth economaidd i gefnogi buddsoddi mewn gwasanaethau a rhaglenni sydd wedi eu targedu at blant o dan 7 oed. Gwelwyd bod buddsoddi mewn iechyd a lles babanod a phlant ifanc yn rhoi cyfle i Gymru elwa yn y dyfodol o fuddiannau yn y tymor byr a'r tymor hir ym mhob rhan o gymdeithas.

Mynediad i'r adroddiad llawn yma

 

Chwech o Brifysgol Bangor yn cael eu penodi’n Uwch Arweinwyr Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Gwybodaeth pellach yma.

Gwobr ESRC am yr Effaith Orau ar Bolisi Cyhoeddus a/neu Wasanaethau Cyhoeddus

Dyfarnwyd Gwobr Cynyddu Effaith yr ESRC, Effaith Orau ar Bolisi Cyhoeddus a/neu Wasanaethau Cyhoeddus i’r Athro Dyfrig Hughes, o Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau Coleg y Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad.
Mae’r Ganolfan yn gwneud gwaith ymchwil sy’n cyfrannu at ddatblygu polisïau fferyllol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i Gymru a Phrydain.

Mae ymchwil y Ganolfan wedi cael effaith uniongyrchol trwy ddylanwadu ar y broses gwneud penderfyniadau a ddefnyddir wrth asesu meddyginiaethau newydd yn y DU (sy’n £9bn o wariant blynyddol). Mae’r ymchwil hefyd wedi cyfrannu at benderfyniadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban i ymwrthod â’r syniad o gael cronfa neilltuol wedi’i chlustnodi ar gyfer cyffuriau canser. Yn wahanol i’r GIG yn Lloegr, lle mae £200m yn cael ei neilltuo’n flynyddol ar gyfer meddyginiaethau canser, mae polisïau yng Nghymru a’r Alban yn ceisio lleihau anghydraddoldebau yn y gwasanaeth iechyd drwy sicrhau bod cleifion â phob math o gyflyrau’n cael mynediad at driniaethau effeithiol.

Mae’r Ganolfan hefyd yn cydweithio’n agos gyda Chanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan i gynnal asesiad economeg iechyd ar oddeutu 200 o feddyginiaethau newydd. Mae’r wybodaeth yn cael ei gyflwyno i Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, fel gwybodaeth sy’n sail i’w penderfyniadau. Yn y cyfnod rhwng 2006 a 2012 roedd yn sail i wariant o £263m ar feddyginiaethau gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Wrth dderbyn y Wobr, dywedodd yr Athro Dyfrig Hughes: “Ers sefydlu ymchwil ffarmaeconomeg o fewn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau ym Mangor bron i ddegawd yn ôl, mae’r ffocws bob amser wedi bod ar gyflawni deilliannau ansawdd uchel sy’n cael effaith uniongyrchol ar bolisi iechyd. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi chwarae rhan mewn cyfeirio rhai o bolisïau GIG ac mae’n anrhydedd derbyn y Wobr sy’n cydnabod y cyraeddiadau.”