Croeso

Croeso i’r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME). Sefydlwyd y Ganolfan yn 2001, ac rydym ni yn awr yn un o’r canolfannau economeg iechyd mwyaf blaenllaw ym Mhrydain, a’n nod yw:

“hyrwyddo a chynnal ymchwil o ansawdd uchel, cynyddu cyfleoedd ar gyfer ennill grantiau ymchwil a chyhoeddiadau mewn cyfnodolion pwysig”

Cyfrannodd CHEME i uned safle uchaf y Brifysgol yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, gyda 95% o’r allbwn yn rhagori yn fyd-eang ac yn rhyngwladol. Cafodd eu cynnyrch ymchwil eu graddio’n 3ydd allan o 94 sefydliad ar draws y DU.

Mae’r Ganolfan yn weithgar ar draws amrywiaeth o weithgareddau economeg iechyd a gwerthuso meddyginiaethau. Caiff y rhain eu categoreiddio’n fras i’r themâu ymchwil canlynol:

  • Economeg iechyd y cyhoedd ac economeg iechyd ymyriadau seicogymdeithasol a thechnolegau iechyd eraill heb fod yn rhai ffarmacolegol, wedi’i arwain gan Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards
  • Ffarmacoeconomeg, polisi fferyllol a’r defnydd o feddyginiaethau, wedi’i arwain gan Yr Athro Dyfrig Hughes