Croeso

Gan ddefnyddio'r dull deall gwerth cymdeithasol HACT, mae’r Ganolfan Gwerth Cymdeithasol yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yn cynnig cefnogaeth, cyngor, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth i sefydliadau fesur a rhoi gwybod am y newidiadau cadarnhaol y maent yn eu creu ar gyfer pobl a’r amgylchedd.Caiff ei gyd-gyfarwyddo gan Dr Ned Hartfiel  a’r Athro Rhiannon Tudor Edwards gan ddefnyddio arbenigedd rhwydwaith ehangach o gydweithwyr a bwrdd ymgynghorol.

Gall y Ganolfan Gwerth Cymdeithasol roi fframwaith i sefydliadau ar gyfer mesur newid mewn ffyrdd sy’n berthnasol i randdeiliaid. Gan ddefnyddio dulliau ansoddol, meintiol ac ariannol, rydym yn cynhyrchu dadansoddiad o werth cymdeithasol cadarn sy'n cyflwyno sut caiff newid ei greu ar gyfer y bobl sy'n cael profiad o weithgareddau a rhaglenni sefydliad. Trwy fesur a rhoi gwerth ariannol ar ganlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd sefydliad, gallwn gyfrifo cymhareb gwerth cymdeithasol gan gymharu buddion a chostau. Mae cymhareb cost-budd o 3:1, er enghraifft, yn dangos bod buddsoddiad o £1 yn creu £3 o werth cymdeithasol.

Rydym wedi gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, gan gynnwys awdurdodau lleol, y GIG a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal. I gael gwybod sut gall y Ganolfan fod o fudd i’ch sefydliad, cysylltwch â ni.