Ein Gwasanaethau
Gall ein Canolfan Gwerth Cymdeithasol yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau eich helpu i fesur eich gwerth cymdeithasol a dangos eich effaith yn gliriach i eraill. Dyma beth allwn ni ei gynnig:
Cyflwyniad i Werth Cymdeithasol ac Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad
Gweithdy hanner diwrnod ymarferol sy'n rhoi cyflwyniad i werth cymdeithasol, wedi'i deilwra i'ch sefydliad. Mae'r gweithdy hwn yn galluogi eich tîm i ddysgu'r wybodaeth a'r sgiliau ymarferol i ddechrau mesur gwerth cymdeithasol yn eich sefydliad a chyfrifo cymhareb adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiad.
Dadansoddiad Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad
Gallwn eich helpu i fesur eich effaith gymdeithasol trwy ddefnyddio’r broses chwe cham o ddadansoddi Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad. Gyda phrofiad helaeth mewn dadansoddi data ansoddol a meintiol, gallwn eich helpu i nodi, mesur a gwerthfawrogi'r canlyniadau pwysig a brofir gan eich rhanddeiliaid.
Byddwn yn eich cefnogi ym mhob cam o'r broses gwerth cymdeithasol, o ddylunio a chynllunio i weithredu a gwerthuso. Gall mesur y gwerth cymdeithasol a grëir gan eich gweithgareddau a’ch rhaglenni helpu i gryfhau eich ceisiadau am gyllid a gall gynnig dealltwriaeth ymarferol ar sut i gynyddu effaith gymdeithasol eich sefydliad yn y dyfodol.
I gostio eich dadansoddiad neu i archebu hyfforddiant cysylltwch â ni.