Prosiect Ymchwil
Cefnogaeth Economeg Iechyd ar gyfer y Ganolfan Gydweithredol Genedlaethol ar gyfer Canser (NICE)
Ymchwiliwr: Pat Linck
Noddwr: NICE
Graddfa Amser: 2003 tan 2006
Categori: Polisi ac economeg iechyd
Cydweithwyr: Dr Rhiannon Tudor Edwards, Bronwyn Tunnage, Dr Dyfrig Hughes, Dr David Cohen (Prifysgol Morgannwg), Dr Fergus MacBeth, Aelodau’r grwp NCC-C Guidance Development
Statws: Ar y gweill
Mae’r National Institute for Clinical Excellence (NICE) wedi sefydlu saith o Ganolfannau Cydweithio Cenedlaethol i roi’r cyngor arbenigol gan asiantaethau megis y Colegau Brenhinol Meddygol a Nyrsio, cyrff proffesiynol a sefydliadau cleifion/gofalwyr ar gyfer datblygu canllawiau clinigol a chyfarwyddyd darpariaeth gwasanaethau. Mae gan bob canolfan yr arweinyddiaeth, y profiad a’r adnoddau i ddatblygu cyfarwyddyd ar gyfer y GIG ar ran NICE. Mae’r Ganolfan Economeg Iechyd yn darparu cefnogaeth economeg iechyd i’r Ganolfan Gydweithredol Genedlaethol ar gyfer Canser yng Nghaerdydd, i ddatblygu canllawiau comisiynu a gwasanaethau ar gyfer Canser mewn Plant a Phobl Ifainc, Sarcoma, Canser y croen a chanser yr ymennydd a’r system nerfol ganolog.