Newyddion Diweddaraf

Chwilio am gyfranogwyr ar gyfer astudiaeth dull hyfforddi lles emosiynol 12-mis

Ym mis Ionawr 2021 roedd mwy nag un o bob pump unigolyn 16 oed a hŷn yn y Deyrnas Unedig yn profi symptomau iselder a phryder, yn sylweddol fwy nag yn 2020 (www.ons.gov.uk).

Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2021

Hwb mawr i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o fethodolegwyr treialon

Mae partneriaeth i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o fethodolegwyr treialon wedi cael cyllid gan y Cyngor Ymchwil Meddygol trwy eu cystadleuaeth Doctoral Training Partnership (DTP).

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2021

Cost-effeithiolrwydd triniaethau i afiechydon niwrolegol

Yn ddiweddar, mae'r Athro Dyfrig Hughes a chydweithwyr yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd, wedi cyhoeddi canlyniadau tri threial clinigol ar ymyriadau epilepsi a seiatica.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2021

Trin gwenwyn clorocwin

Mae ymchwil gan yr Athro Dyfrig Hughes o Brifysgol Bangor wedi darparu tystiolaeth bwysig ynglŷn â diogelwch triniaethau sy'n cael eu profi i'w defnyddio gyda COVID-19.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2020

Ymchwil yn cynnwys Prifysgol Bangor sy'n berthnasol i adferiad llawn cleifion Covid-19 wedi ei ddyfynnu gan Senedd Ewrop

Cyhoeddwyd ymchwil gan yr Athro Dyfrig Hughes o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd ar effaith economaidd syndrom blinder cronig (CFS) - a adwaenir hefyd fel enseffalomyelitis myalgig (ME) - yn y cyfnodolyn Healthcare yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2020