Cenhadaeth Ddinesig

Mae gweithgareddau ymchwil y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yn cyd-fynd â Strategaeth Cenhadaeth Ddinesig y brifysgol. Rydym yn gweithio gyda'n cymuned trwy nodi a mynd i’r afael â ‘heriau mawr’ (megis iechyd, tlodi, a phoblogaeth sy'n heneiddio) a gwella ansawdd bywyd a rhannu gwybodaeth drwy ymgysylltu cymdeithasol a chyhoeddus.

Dyma rai enghreifftiau diweddar:

Nodi a mynd i'r afael â 'heriau mawr'

Ymchwil cysylltiedig â COVID-19 a gweithgareddau cefnogi polisi
Wales covid-19 logo

Roedd Grŵp Ymchwil Economeg Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol , ynghyd â staff yn y Ganolfan Ymchwil Gofal Cychwynnol Gogledd Cymru, fel rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor ac Economeg Iechyd a Gofal Cymru  wedi darparu cefnogaeth adolygu cyflym i'r Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru.

Roedd adolygiadau tystiolaeth a gynhaliwyd fel rhan o’r rhaglen waith beilot gynnar hon wedi darparu atebion cyflym i rai o’r blaenoriaethau parhaus pwysicaf a galluogi Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru i brofi, mireinio a gwella eu prosesau cyn canlyniadau’r ymgynghoriad blaenoriaethu cwestiwn ymchwil rhanddeiliaid.  Cyfrannodd y gwaith hwn at nodau craidd y Ganolfan: gwella ansawdd a diogelwch darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol trwy sicrhau bod ymchwil COVID-19 yn amserol ac yn berthnasol i Gymru.

Gwella ansawdd bywyd a rhannu gwybodaeth trwy ymgysylltu cymdeithasol a chyhoeddus

Hosbis Dewi Sant

St David's Hospice logo
Mae staff Grŵp Ymchwil Economeg Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol wedi bod yn gweithio'n agos gyda Hosbis Dewi Sant ar ddadansoddi cyllid hosbis yng ngogledd Cymru a rhagweld gofynion gwelyau hosbis ledled Cymru. Roedd hyn yn cynnwys dadansoddiad o'r ffyrdd yr oedd hosbisau yng ngogledd Cymru yn cael eu hariannu, i wella gofal diwedd oes ac argaeledd gofal hosbis yng Ngwynedd wledig.

Gardd Fotaneg Treborth

treborth logo

Mae'r Ganolfan Gwerth Cymdeithasol yng Nghanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau , a Chanolfan Newid Ymddygiad Cymru yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol, yn ymchwilio i'r buddion lles a'r gwerth cymdeithasol y mae Gardd Fotaneg Treborth yn ei greu i’r bobl sy'n ymweld â'r ardd ac yn gwirfoddoli yno, gan gynnwys staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor ac aelodau o'r gymuned leol.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth hon a swyddogaeth lles yr ardd yma.

Rhaglen 'Agor Drysau i'r Awyr Agored' y Bartneriaeth Awyr Agored

Cheme logo 

Mae'r rhaglen hon wedi'i hanelu at unigolion anweithgar sy'n profi lles meddyliol isel yng ngogledd Cymru. Mae’n ymyriad cerdded a dringo 12 wythnos sy’n rhoi cyfle i bobl â lles meddyliol isel gynyddu gweithgarwch corfforol, hyder, hunan-barch ac ansawdd bywyd mewn amgylchedd cefnogol sy’n galluogi cymdeithasu gyda chyfoedion.

Darparodd y Ganolfan Gwerth Cymdeithasol yng Nghanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau werthusiad o’r rhaglen, i amcangyfrif yr adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiad Agor Drysau i’r Awyr Agored trwy gymharu costau cyflwyno’r rhaglen â’r canlyniadau ariannol a brofwyd gan gleientiaid Agor Drysau i’r Awyr Agored o ran gwell lles meddyliol, gweithgarwch corfforol, ymddiriedaeth gymdeithasol ac iechyd cyffredinol.

Mae’r adroddiad adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiad wedi'i gyhoeddi a gellir ei weld yma.

A blue circle with white text  Description automatically generated

 

 


Ioga therapiwtig yn y gweithle 

Mae 80% o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn dioddef o boen cefn. Ers 2013 mae ymchwil ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn edrych ar ffyrdd o fynd i'r afael â'r broblem. Mae’r rhaglenni ioga therapiwtig wedi’u gwerthuso mewn tri threial clinigol sy’n deillio o Brifysgol Bangor ac wedi’u datblygu’n Rhaglen Cefn Iach chwe wythnos.

Dangosodd ymchwil a oedd yn cynnwys gweithwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod staff a gymerodd ran yn y Rhaglen Cefn Iach wedi cymryd llai o ddiwrnodau absenoldeb salwch yn ymwneud â phoen cefn a chyflyrau cyhyrysgerbydol (fel yr adroddwyd yn The Conversation). Dywedodd 87% o weithwyr eu bod yn cael llai o boen cefn a dywedodd 83% fod eu lles wedi cynyddu.

Mae'r gwerth cymdeithasol a gynhyrchir o'r Rhaglen Cefn Iach tua £16 ar gyfartaledd am bob £1 a fuddsoddir. Darllenwch fwy am sut mae’r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yn mesur gwerth cymdeithasol yma.

Ymwneud â’r Gymuned yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Eisteddfod Llyn ac Eifionydd Logo, testun mewn coch

 

 

 

 

 

Bu’r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) yn tynnu sylw’r cyhoedd, hen ac ifanc at economeg iechyd drwy gymryd rhan yn y Pentref Gwyddoniaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd (5-12 Awst 2023). Trefnwyd gweithgareddau i gael y cyhoedd i gymryd rhan ac i ddysgu mwy am y ffyrdd y gwneir penderfyniadau a blaenoriaethau iechyd. Roedd gweithgareddau yn cynnwys: ‘Her y Cwch' lle'r oedd yn rhaid i gyfranogwyr greu cwch gweithredol gan ddefnyddio adnoddau cyfyngedig, ac 'Uwch neu Is’, gêm cardiau a oedd yn golygu ystyried cost ymyriadau meddygol. Roedd y tasgau llawn hwyl hyn yn rhannu gwybodaeth am yr heriau o ddyrannu darpariaeth iechyd o fewn cyllideb gyfyngedig. Roedd yn gyfle gwych i ymgysylltu â’r cyhoedd yn Gymraeg, i drafod economeg iechyd. Roedd y tasgau'n boblogaidd ac wedi cael derbyniad gan yr ymwelwyr â’r Eisteddfod a bydd CHEME yn trefnu gweithgareddau tebyg mewn digwyddiadau yn y dyfodol.

Mae CHEME yn ddiolchgar am gefnogaeth cydweithwyr ym Mhrifysgol Bryste a ddatblygodd Her y Cwch, a addaswyd i'w defnyddio mewn lleoliad gŵyl ac i'w chyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg.