Diogelu Data
Yn ystod 2018, newidiodd y gyfraith mewn perthynas â diogelu data. Mae gweithredu’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), a’r Ddeddf Diogelu Data 2018 newydd wedi newid y ffordd mae Prifysgol Bangor yn casglu, defnyddio a storio gwybodaeth bersonol am unigolion (data personol). Mae’r brifysgol wedi newid ei phrosesau er mwyn rhoi ystyriaeth i’r newidiadau hyn, ac mae’r prif bolisïau a’r gweithdrefnau wedi cael eu diwygio.
Swyddog Diogelu Data Prifysgol Bangor yw Sara Riley, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol.
Mae Polisi Diogelu Data’r brifysgol, sy’n esbonio sut mae’r brifysgol yn rheoli’r gwaith o ddiogelu data, ar gael yma:
Mae ein hysbysiadau preifatrwydd ar gyfer cleifion a phartneriaid ymchwil, sy’n rhoi rhagor o fanylion ar sut mae CHEME yn defnyddio data personol yn ein swyddogaeth fel canolfan economeg iechyd, ar gael yma: