Economeg Iechyd a Gofal Cymru EIGC
Mae GCEIC yn cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (Is-adran o Lywodraeth Cymru) i gefnogi ymchwil i iechyd a gofal cymdeithasol, i wella ansawdd ceisiadau am gyllid, ac i wella sut mae penderfyniadau sy’n ymwneud ag iechyd yn cael eu gwneud yng Nghymru.
Pwy fedrwn ni eu helpu?
Rydym yn cefnogi ymchwilwyr iechyd academaidd, ymchwilwyr y GIG, gofal cymdeithasol ac awdurdodau lleol yng Nghymru trwy ddarparu cymorth economeg iechyd, o’r camau cysyniadol cynnar wrth gynllunio cais hyd y camau olaf wrth adrodd a lledaenu gwybodaeth.
Pa gymorth fedrwn ni ei gynnig?
Gallwn ddarparu cymorth economeg iechyd mewn perthynas â phob agwedd o ymchwil gan gynnwys cyngor ynglŷn â…
- Camau cynnar ffurfio syniadau ymchwil
- Datblygu astudiaeth
- Meithrin perthnasau cydweithredol
- Cyfrifo costau ymyraethau ac adnoddau’r GIG a rhai cymdeithasol
- Gwerthusiadau economaidd megis cost effeithiolrwydd a dadansoddiadau cost-defnyddioldeb
- Dulliau o bennu blaenoriaethau gan gynnwys Cyllidebu Rhaglenni a Dadansoddi Ymylol
- Dadansoddi Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad
- Mesuryddion Canlyniadau y mae Cleifion yn Adrodd Amdanynt
- Modelu Economeg Iechyd
- Cyhoeddi a Lledaenu Canlyniadau
Cysylltwch â ni
Cyfarwyddwr GCEIC a Gogledd Cymru
Rhiannon Tudor Edwards
Ffôn: (01248) 383712/ 07799 460347
E-bost: r.t.edwards@bangor.ac.uk
GCEIC De Ddwyrain Cymru
Deborah Fitzsimmons
Ffôn: (01792) 602226
E-bost: d.fitzsimmons@swansea.ac.uk