Ymgysylltu a’r Cyhoedd

Gwasnaeth Cymorth Economeg Iechyd Cymru/Welsh Health Economics Support Service (GCEIC/WHESS)

CHEME, Prifysgol Bangor

Ymunwch GCEIC/WHESS Ymgysylltu a’r Cyhoedd

Oes gennych chi ddiddordeb mewn helpu i ddatblygu ymchwil gyda’r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME)?

Os ydych, ystyriwch ymuno â chronfa ddata ymgysylltu a’r cyhoedd ar gyfer WHESS, sef cronfa ddata o bobl sydd â diddordeb mewn datblygu prosiectau ymchwil.

Mae bod yn aelod o’r grŵp ymgysylltu yn golygu y gallwch chi:

  • Ddysgu am a dylanwadu ar ymchwil iechyd yn eich ardal chi
  • Defnyddio eich profiad fel claf, defnyddiwr gwasanaeth, gofalwr neu aelod o'r teulu i helpu eraill
  • Dylanwadu ar ddyluniad yr astudiaeth i wneud ceisiadau am arian yn fwy llwyddiannus
  • Trafod y gwaith gyda thimau ymchwil trwy e-bost, yn bersonol, neu dros y ffôn
  • Cael mynediad i hyfforddiant am ddim am ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol
  • Cael costau teithio os bydd angen i chi fynychu cyfarfodydd yn bersonol*.

 *Os fyddwch hefyd yn ymaelodi efo Cymuned Ymgysylltu a’r Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

 

 

Manylion cysylltu:

Arweinydd Ymgysylltu a’r Cyhoedd – Gogledd Cymru:

Dr Llinos Haf Spencer
E-bost: L.Spencer@Bangor.ac.uk 
Ffôn:: 01248 383171

Arweinydd Ymgysylltu a’r Cyhoedd – De Cymru:

Dr Liv Kosnes
E-bostl: L.Kosnes@Swansea.ac.uk
Ffôn:: 01792 602049