Prosiect Ymchwil

Gwerthusiad economaidd o gyffuriau ar gyfer clefydau anghyffredin

Ymchwiliwr: Dr Dyfrig Hughes

Noddwr: Actelion Pharmaceuticals Ltd UK

Graddfa Amser: Rhagfyr 2004 - Chwefror 2005

Categori: Polisi ac economeg iechyd

Statws: Wedi’i chyllido

O dan reoliad yr Undeb Ewropeaidd ar gynnyrch meddyginiaethol anghyffredin (Rhif 141/2000), mae cyffuriau a nodir ar gyfer clefydau gyda chyffredinolrwydd mewn llai na 5 allan o bob 10,000 o’r boblogaeth yn cael bod ar y farchnad am ddeng mlynedd ar gyfer y dangosiad therapiwtig. Fodd bynnag, nid yw cymeradwyaeth gan awdurdodau trwyddedu yn golygu bod gwasanaethau iechyd yn ad-dalu triniaethau o’r fath. Mae penderfyniadau ynghylch ad-daliad yn y GIG, gan NICE yng Nghymru a Lloegr, a’r NHS Quality Improvement Scotland, wedi eu seilio ar werthusiadau technoleg o effeithiolrwydd clinigol a chost effeithiolrwydd. Amcanion yr astudiaeth yw: 1. Archwilio theorïau cyfiawnder ac economeg a sut gall y rhain gynorthwyo â dyrannu adnoddau gofal iechyd ar gyfer defnyddio cyffuriau anghyffredin . 2. Amlygu anghysondebau mewn polisïau cyffuriau cenedlaethol, gyda chanolbwynt arbennig ar ddeddfwriaeth cyffuriau anghyffredin a chyrff sy’n gyfrifol am ad-daliadau cyffuriau (megis NICE). 3. Adolygu pa ymyriadau (nid cyffuriau o angenrheidrwydd) gyda chost fesul QALY uchel (neu gost fesul blwyddyn oes a enillir) a gyllidir yn gyhoeddus. 4. Asesu a yw gwerthusiadau cost effeithiolrwydd yn ymarferol mewn sefyllfaoedd lle mae cyfanswm nifer y cleifion a amlygir i’r cyffur yn fychan iawn

.