Prosiect Ymchwil
Dilyniant deuddeg mis o raglen magu plant Rhaglen Magu Plant y Grwp Webster-Stratton: Dadansoddiad Cost effeithiolrwydd.
Ymchwiliwr: Alan Ó Céilleachair
Noddwr: The Health Foundation
Graddfa Amser 2003-2006
Categori: Polisi ac Economeg Iechyd
Cydweithwyr: Dr. Rhiannon Tudor Edwards, Dr. Tracey Bywater, Dr. Judy Hutchings, Dr. Jess Eade
Statws: Ar y gweill
Mae anhwylderau ymddygiad aflonyddgar, yn cynnwys anhwylder ymddygiad, yn effeithio ar o leiaf 10% o blant, a dyma’r rhesymau mwyaf cyffredin dros gyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl plant. Gall yr effaith economaidd tymor hir ar gymdeithas o anhwylder ymddygiad heb ei ddatrys fod yn fwy na £1 miliwn i un unigolyn yn ystod eu hoes. Mae’r astudiaeth hon yn gweithio ar y cyd â Blynyddoedd Anhygoel Cymru, a arweinir gan Dr. Judy Hutchings i bennu cost effeithiolrwydd y Rhaglen Magu Plant Grwp Webster Stratton. Dyma ymyriad y canfuwyd iddo leihau problemau ymddygiad yn glinigol ymhlith plant. Mae grwpiau wedi cael eu recriwtio o ledled gogledd Cymru ac ardal y Gororau, ac maent yn cael eu holi am eu defnydd o wasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau addysg arbennig ar y cychwyn ac ar adegau dilynol 6 mis a 12 mis wedyn. Yn ogystal, mae costau cynnal sesiynau grwp y rhaglen Webster-Stratton yn cael eu hamcangyfrif gyda chymorth nifer o arweinwyr grwp. Mae gwybodaeth am ansawdd bywyd gofalwyr sylfaenol yn cael ei chasglu drwy’r holiadur EQ-5D.