Prinder gweithlu gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig: pam mae buddsoddi nawr yn hanfodol i feithrin ein llesiant
Kalpa Pisavadia a Rhiannon Tudor Edwards
Gall economegwyr iechyd roi cyngor ar gostau a manteision gwasanaethau iechyd sy'n sicrhau bod llesiant y cyhoedd yn cael ei feithrin. Mae lles ein cymunedau yn dibynnu arnom i ddiogelu’r gwasanaethau y gall fod eu hangen arnom ar adegau o salwch, anafiadau a henaint. Ni allwn ragweld pryd y bydd angen cefnogaeth ar ein hanwyliaid i fyw’n annibynnol neu ofal diwedd oes. Mae pandemig COVID-19 wedi ein dysgu bod gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn gofyn am wytnwch ac ymrwymiad anhygoel. Yn y Deyrnas Unedig, mae'n ofynnol i bob aelod o staff iechyd a gofal cymdeithasol feddu ar werthoedd a elwir yn Saesneg yn 6C, gofal, tosturi, cymhwysedd, cyfathrebu, dewrder ac ymrwymiad (NHS England, 2022). Mae'r sgiliau allweddol hyn yn galluogi gofalwyr cymdeithasol i chwarae rhan amhrisiadwy yn ein cymunedau. Fodd bynnag, nid yw cyllid a chyflogau staff gofal cymdeithasol ledled y Deyrnas Unedig yn adlewyrchu gwerth y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu i ni. Mae toriadau hirfaith i gyllidebau awdurdodau lleol rhwng 2008 a 2018 a chynllunio gweithlu annigonol yn golygu bod prinder gweithlu wedi dod yn endemig (Stuckler et al., 2017; The Kings Fund, 2022a). O ganlyniad, mae’r gweithlu gofal cymdeithasol bellach yn wynebu heriau digynsail o ran recriwtio a dal gafael ar staff.
Ym mis Rhagfyr 2021, adroddodd Care England fod 95% o ddarparwyr gofal yn cael trafferth recriwtio staff, a 75% yn cael trafferth dal gafael ar eu staff presennol (Care England, 2021). Rhwng 2021 a 2022, cynyddodd nifer y swyddi gwag ledled y Deyrnas Unedig mewn gofal cymdeithasol i oedolion 52%. Ers 2015, mae’r galw am ofalwyr cymdeithasol ar gyfer oedolion o oedran gweithio wedi cynyddu 15% oherwydd bod llawer o bobl ag anableddau difrifol yn goroesi plentyndod (The Kings Fund, 2022b). Mae adroddiadau diweddar yn nodi angen clir heb ei ddiwallu am ofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig. Yn ôl Age UK (2022), nid oedd 1.6 miliwn o bobl hŷn yn cael y gofal a’r gefnogaeth yr oedd eu hangen arnynt cyn y pandemig, ac ar hyn o bryd, nid yw bron i draean o geisiadau am gyllid llywodraeth leol yn arwain at unrhyw gefnogaeth. Mae adroddiad diweddar Sgiliau Gofal (2022) yn honni bod angen cymryd camau brys i recriwtio a dal gafael ar y gweithlu gofal cymdeithasol. Er mwyn cadw i fyny â’r galw a chyfraddau disgwyliad oes sy’n cynyddu’n barhaus, mae angen 480,000 o bobl ychwanegol yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol erbyn 2035. Yn ogystal, gallem golli 430,000 o weithwyr gofal cymdeithasol ychwanegol yn y Deyrnas Unedig os bydd y rhai 55 oed a hŷn yn ymddeol yn y deng mlynedd nesaf. (Fenton et al., 2022).
Mae’r diffyg mewn gofal cymdeithasol i oedolion yn rhoi pwysau cynyddol ar ofalwyr di-dâl. Yng Nghymru yn unig, roedd 96% o ofal yn cael ei ddarparu gan ofalwyr di-dâl (Senedd Cymru, 2022). Mae’n bosibl bod llawer o’r gofalwyr di-dâl hyn o oedran gweithio ac yn methu â gwneud hynny oherwydd yr ymrwymiad hwn, gan arwain at gostau economaidd ehangach (Krol & Brouwer, 2015). Roedd gofal di-dâl eisoes wedi cael effaith cost uwch ar sectorau cyflogaeth a budd-daliadau lles cyn y pandemig. Er enghraifft, yn 2017, roedd colli refeniw treth a gwariant cynyddol ar fudd-daliadau i gefnogi gofalwyr di-waith yn costio £1.7bn y flwyddyn i economi’r Deyrnas Unedig (Pickard et al., 2018). Yn fwy diweddar, canfu astudiaeth fodelu fod oedolion ifanc sy’n gofalu am aelod o’r teulu yn ennill cyflogau sylweddol is na’r rhai heb unrhyw gyfrifoldebau gofalu. Yn ogystal, oherwydd bod gan ofalwyr sy’n oedolion ifanc iechyd corfforol a meddyliol gwaeth, mae budd-daliadau lles, costau gwasanaeth iechyd a darparu gofal o refeniw treth is yn dod i £1048 miliwn y flwyddyn ar gyfer y grŵp hwn (Brimblecombe et al., 2020).
Mae colli llafur medrus a mwy o anghenion recriwtio a hyfforddi yn arwain at gostau pellach i gyflogwyr. Mae hon yn broblem arbennig ym maes gofal cymdeithasol lle’r oedd cyfraddau trosiant staff rhwng 2021 a 2022 yn 29%, sy’n golygu bod 400,000 o bobl wedi gadael eu swyddi y llynedd, yn ddi-os, oherwydd cyflogau cychwynnol isel a chyfraddau isel o ran symud ymlaen i swydd uwch. (Fenton et al., 2022). Mae cyflog blynyddol cymedrig gweithwyr gofal yn y sector annibynnol mor isel â £17,900 y flwyddyn (Y Sefydliad Iechyd, 2021). Ar gyfartaledd, mae gweithwyr gofal sydd â phum mlynedd neu fwy o brofiad yn y sector ddim ond yn cael eu talu 7c yr awr yn unig yn fwy na gweithiwr gofal â llai na blwyddyn o brofiad (Fenton et al., 2022). Yn hollbwysig, mae 24% o staff gofal cymdeithasol ar gontractau dim oriau o gymharu â 3% yn y boblogaeth ehangach. Profwyd bod contractau dim oriau yn effeithio’n negyddol ar ysbryd a lles meddwl staff, ac yn cynyddu cyfraddau trosiant (Ndzi & Barlow, 2022). Yn ôl arolwg trawstoriadol yn 2019, roedd 60% o weithwyr gofal cartref ar gontractau dim oriau (Ravalier et al., 2019). Canfu’r arolwg hwn er bod sawl ffactor yn cyfrannu at straen i weithwyr gofal cartref, mae contractau dim oriau yn gwaethygu’r mater yn sylweddol. Rhai o’r cyfranwyr at straen mewn perthynas â chontractau dim oriau oedd yr ansicrwydd o beidio â chael oriau gwaith neu dâl penodol, ac felly methu â chynllunio eu bywydau personol ac weithiau methu â thalu biliau(Ravalier et al., 2019).
Mae’r pandemig wedi dangos inni fod amodau’r farchnad lafur yn dylanwadu ar y sector gofal cymdeithasol. Rhwng 2020 a 2021, gostyngodd swyddi gweigion ym maes gofal cymdeithasol oherwydd diffyg cyfleoedd gwaith yn yr economi ehangach. Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2022, cynyddodd cyfleoedd swyddi yn yr economi ehangach 2.5%, a dychwelodd cyfraddau swyddi gwag gofal cymdeithasol oedolion i’w lefelau cyn-bandemig o 10.7% (Fenton et al., 2022). Canfu adolygiad cyflym a gynhaliwyd gan Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR) yn 2021 fod staff cartrefi gofal a gofal cartref, yn ystod y pandemig, yn wynebu pwysau cynyddol a chwythu plwc (burnout) (Spencer et al., 2021). Mae Fforwm Gofal Cymru hefyd yn cydnabod, tua diwedd y pandemig, fod llawer o staff yn gadael eu swyddi yn y sector gofal cymdeithasol i chwilio am gyfleoedd â chyflogau gwell a llai o bwysau mewn mannau eraill (Fforwm Gofal Cymru, 2021). Yn ystod y pandemig, roedd angen gwneud mwy i gefnogi a gwobrwyo staff newydd a phresennol a oedd yn wynebu heriau cynyddol.
Mae manteision economaidd sylweddol i fuddsoddi yn y sector gofal cymdeithasol a thalu cyflog priodol i rai o’n gweithluoedd mwyaf gwerthfawr. Amlygodd adroddiad diweddar Sgiliau Gofal fod effeithiau anuniongyrchol (cyfarpar a chyflenwadau a brynwyd) ac effeithiau uniongyrchol (cyflogau staff) gofal cymdeithasol wedi cynhyrchu £51.5 biliwn y flwyddyn i’r economi yn Lloegr yn 2022 ac 1.2 biliwn yng Nghymru yn 2016 (Fenton et al., 2022; ICF, 2018; Sgiliau Gofal, 2021). Yn 2021, roedd y sector gofal cymdeithasol yn cyflogi 1.54 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig ac yn creu 600,000 o swyddi ychwanegol yn anuniongyrchol (Y Sefydliad Iechyd et al., 2021). Mae gofal cymdeithasol hefyd yn darparu digon o gefnogaeth i’r GIG, lle mae mwy o ofal preswyl ar gael yn gysylltiedig â lleihau’r nifer sy’n cael eu hanfon yn ôl i’r ysbyty ac oedi wrth ryddhau (Spiers et al., 2018, 2019).
Mae angen cynllunio gweithlu hirdymor ar frys i gynyddu capasiti a chynnal proffil staffio gyda'r sgiliau a'r wybodaeth gywir i fodloni'r galw cynyddol. Dim ond 50% o'r staff sy'n darparu gofal yn uniongyrchol sydd â chymhwyster gofal cymdeithasol(Y Sefydliad Iechyd et al., 2021). Gan mai ychydig o godiad cyflog yn unig sydd i uwch weithwyr gofal, efallai nad yw symud ymlaen i swydd uwch yn ymddangos yn werth chweil i lawer o aelodau staff. Mae buddsoddi mewn hyfforddiant yn y sector gofal cymdeithasol a gosod graddfeydd datblygiad cyflog digonol yn hollbwysig. Mae gofalwyr cymdeithasol yn cefnogi pobl ag anghenion mwy cymhleth nag yr oeddent ddeng mlynedd yn ôl ac, felly, mae angen sgiliau a hyfforddiant ychwanegol arnynt i ofalu’n ddigonol am bobl (Fenton et al, 2022). Cyn y pandemig, roedd staff gofal cymdeithasol yn aml yn cymryd cyfrifoldebau y tu hwnt i'w hyfforddiant a'u harbenigedd, fel gosod cathetrau a rhoi inswlin (Hayes et al., 2019). Yn ystod y pandemig, roedd disgwyl i staff ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol fel trin briwiau a chadarnhau marwolaethau (Grŵp Comisiynu GIG Norfolk a Waverley, 2020; Sgiliau Gofal, 2020). Canfu adroddiad Sgiliau Gofal fod y gyfradd trosiant gyfartalog wedi gostwng i 31.7% ymhlith staff a gafodd rywfaint o hyfforddiant o gymharu â 41.2% ymhlith y rhai nad oeddent wedi cael unrhyw hyfforddiant (Fenton et al, 2022). Er mwyn denu staff yn ystod argyfwng costau byw, mae’n hanfodol bod cyllid yn cael ei fuddsoddi mewn dysgu a datblygu i ddarparu llwybrau gyrfa addawol a datblygiad cyflog digonol ar gyfer staff newydd a phrofiadol.
Yng Nghymru, cafodd y Cyflog Byw Gwirioneddol o £9.90 ei roi i’r holl staff gofal cymdeithasol ym mis Ebrill 2022, ac yn hydref 2022, cyhoeddodd llywodraeth y Deyrnas Unedig gynnydd pellach i £10.42 i’w gyflwyno ym mis Ebrill 2023. Fodd bynnag, er gwaethaf y gwerth economaidd a gynhyrchir gan ofal cymdeithasol, dim ond 2.5% y mae cyflog y sector cyhoeddus wedi’i gynyddu hyd yma. Mae hyn ymhell islaw’r gyfradd chwyddiant gyfredol, a gododd i 10.1% ym mis Medi 2022 (Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2022a, 2022b). Gyda'r argyfwng costau byw presennol, mae pobl yn cael eu gorfodi i wario mwy ar hanfodion fel bwyd ac ynni. Mae hyn yn golygu bod gan y cyhoedd lai o arian i'w wario. Gall cynyddu cyflogau’r sector cyhoeddus leihau cyfraddau trosiant yn ogystal â rhoi mwy o allu i bobl wario. Mae potensial i hyn gryfhau’r sector gofal yn ogystal â chefnogi gweddill yr economi (Murphy, 2022).
Yn 2021, cyflwynodd y llywodraeth y papur gwyn, Pobl Wrth Galon Gofal: Diwygio Gofal Cymdeithasol i Oedolion (Llywodraeth y Deyrnas Unedig â'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 2021). Dywedodd y papur gwyn y byddai £500m yn cael ei fuddsoddi mewn datblygiad proffesiynol, ariannu adnoddau llesiant iechyd meddwl, cefnogi staff i wella o effeithiau’r pandemig a chyflwyno diwygiadau pellach i wella recriwtio a chefnogaeth i’r gweithlu gofal cymdeithasol (Trysorlys EM, 2021). Fodd bynnag, ni ddarparodd y papur gwyn unrhyw symiau penodol o ran sut y bydd y £500m yn cael ei ddosbarthu. Yn ogystal, nid yw'r llywodraeth eto wedi cyflawni'r addewid hwn bron i flwyddyn ar ôl cyhoeddi'r papur gwyn (NHS Support Federation, 2022). Ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi addo buddsoddi £10m ychwanegol ar gyfer gofal cartref (Llywodraeth Cymru, 2022a). Fodd bynnag, cydnabuwyd y byddai hyn yn cymryd amser i'w gyflawni ac efallai na fyddai'n ddigon i fodloni cyfanswm y galw (Llywodraeth Cymru, 2022b)
Mae'r gofal a'r gwasanaethau a ddarperir gan weithwyr gofal cymdeithasol yn amhrisiadwy i'n cymunedau. Dangosodd staff iechyd a gofal cymdeithasol wytnwch ac ymrwymiad rhyfeddol yn ystod y pandemig. Mae cefnogi staff gyda hyfforddiant a gwobrwyo staff profiadol gyda datblygiad cyflog digonol yn hanfodol. Mae meithrin llesiant i bawb yn dibynnu ar ddiogelu’r gwasanaethau y gall fod eu hangen arnom ar adegau o salwch, anafiadau neu henaint. Rhaid i’r llywodraeth gyflawni’r addewidion a nodir ym mhapur gwyn Rhagfyr 2021 ac ariannu’r gwasanaethau hyn yn briodol er mwyn dal gafael ar y staff yn ein sector gofal cymdeithasol, a’u cefnogi (Llywodraeth y Deyrnas Unedig â'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 2021). Y tu ôl i ystadegau prinder gweithlu gofal cymdeithasol mae bywydau pobl nad ydynt efallai’n cael y gefnogaeth y mae dirfawr ei hangen arnynt.
Cyfeiriadau
Age UK. (2022). New analysis finds the pandemic has significantly increased older people’s need for social care. https://www.ageuk.org.uk/latest-press/articles/2021/new-analysis-finds-the-pandemic-has-significantly-increased-older-peoples-need-for-social-care/#:~:text=Before%20the%20pandemic%20struck%20Age%20UK%20estimated%20that,could%20grow%20to%202.1%20million%20people%20by%202030.
Brimblecombe, N., Knapp, M., King, D., Stevens, M., & Cartagena Farias, J. (2020). The high cost of unpaid care by young people:health and economic impacts of providing unpaid care. BMC Public Health, 20(1). https://doi.org/10.1186/s12889-020-09166-7
Care England. (2021). Written evidence Health and Social Care Committee. https://committees.parliament.uk/committee/81/health-and-social-care-committee/publications/written-evidence/?SearchTerm=RTR0069&DateFrom=&DateTo=&SessionId=
Fforwm Gofal Cymru. (2021). RESPONSE TO THE SENEDD HEALTH & SOCIAL CARE COMMITTEE CONSULTATION ON THE HEALTH & SOCIAL CARE WORKFORCE. https://business.senedd.wales/documents/s119130/HSC43%20-%20Care%20Forum%20Wales.pdf
Fenton, W., Davidson, S., Fleming, N., Holloway, M., Polzin, G., Price, R., & Fozzard, T. (2022). The-state-of-the-adult-social-care-sector-and-workforce-2022. https://www.skillsforcare.org.uk/Home.aspx
Hayes, L., Johnson, E., & Tarrant, A. (2019). Kent Academic Repository Professionalisation at work in adult social care. https://kar.kent.ac.uk/77269/
HM Treasury. (2021). Build Back Better: our plan for growth. https://www.gov.uk/government/publications/build-back-better-our-plan-for-health-and-social-care/build-back-better-our-plan-for-health-and-social-care
ICF. (2018). The Economic Value of the Adult Social Care sector-Wales Final report. https://socialcare.wales/cms-assets/documents/The-Economic-Value-of-the-Adult-Social-Care-Sector_Wales.pdf
Krol, M., & Brouwer, W. (2015). Unpaid work in health economic evaluations. Social Science & Medicine, 144, 127–137. https://doi.org/10.1016/J.SOCSCIMED.2015.09.008
Murphy, R. (2022). Here’s How Rishi Sunak Could Crash Our Economy (Again) Austerity would send us spiralling into a deep recession. https://novaramedia.com/2022/10/25/heres-how-rishi-sunak-could-crash-our-economy-again/
Ndzi, E. G., & Barlow, J. (2022). Zero-hour contracts take a huge mental and physical toll – poor eating habits, lack of sleep and relationship problems. https://theconversation.com/zero-hour-contracts-take-a-huge-mental-and-physical-toll-poor-eating-habits-lack-of-sleep-and-relationship-problems-119703
NHS England. (2022). The 6Cs of Care. https://www.nhsprofessionals.nhs.uk/nhs-staffing-pool-hub/working-in-healthcare/the-6-cs-of-care
NHS Norfolk and Waverley Commissioning Group. (2020). Guidance for delegation of tasks N&W CCG v1 Guidance for Delegated Tasks during Covid 19-Wound Care and Skin Tear Management Rationale. https://www.ahsnnetwork.com/wp-content/uploads/2020/04/
NHS Support Federation. (2022). Fund Our NHS. https://nhsfunding.info/symptoms/10-effects-of-underfunding/staff-shortages-2/
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. (2022a). Average weekly earnings in Great Britain: October 2022. https://www.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/employmentandemployeetypes/bulletins/averageweeklyearningsingreatbritain/october2022
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. (2022b). Inflation and Price Indices. https://www.ons.gov.uk/economy/inflationandpriceindices
Pickard, L., King, D., Brimblecombe, N., & Knapp, M. (2018). Public expenditure costs of carers leaving employment in England, 2015/2016. Health and Social Care in the Community, 26(1), e132–e142. https://doi.org/10.1111/hsc.12486
Ravalier, J., Morton, R., Russell, L., & Rei Fidalgo, A. (2019). Zero-hour contracts and stress in UK domiciliary care workers. Health and Social Care in the Community, 27(2), 348–355. https://doi.org/10.1111/hsc.12652
Skills for Care. (2020). Verification of Expected Death (VOED) with clinical remote support Guidance for Adult Social Care Workers. https://www.skillsforcare.org.uk/Documents/Learning-and-development/Ongoing-learning-and-development/End-of-life-care/VOED-supporting-guidance2.pdf
Skills for Care. (2021). The value of adult social care in England: Why it has never been more important to understand the economic benefits of adult social care to individuals and society. www.skillsforcare.org.uk
Spencer, L. H., Hartfiel, N., Hendry, A., Anthony, B., Makanjuola, A., Bray, N., Hughes, D., Wilkinson, C., Fitzsimmons, D., Edwards, R. T., Edwards, A., Gal, M., Cooper, A., & Lewis, R. (2021). Wales COVID-19 Evidence Centre (WCEC) Rapid Review Have infection control and prevention measures resulted in any adverse outcomes for care home and domiciliary care residents and staff? www.primecentre.wales/resources/RR/Clean/RR00018_Wales_COVID-
Spiers, G., Matthews, F. E., Moffatt, S., Barker, R., Jarvis, H., Stow, D., Kingston, A., & Hanratty, B. (2019). Does older adults’ use of social care influence their healthcare utilisation? A systematic review of international evidence. In Health and Social Care in the Community (Vol. 27, Issue 5, pp. e651–e662). Blackwell Publishing Ltd. https://doi.org/10.1111/hsc.12798
Spiers, G., Matthews, F. E., Moffatt, S., Barker, R. O., Jarvis, H., Stow, D., Kingston, A., & Hanratty, B. (2018). Impact of social care supply on healthcare utilisation by older adults: A systematic review and meta-analysis. Age and Ageing, 48(1), 57–66. https://doi.org/10.1093/ageing/afy147
Stuckler, D., Reeves, A., Loopstra, R., Karanikolos, M., & McKee, M. (2017). Austerity and health: The impact in the UK and Europe. European Journal of Public Health, 27, 18–21. https://doi.org/10.1093/eurpub/ckx167
The Health Foundation, The Kings Fund, & Nuffield Trust. (2021). The value of investing in social care. What are the benefits of further funding for reform to adult social care in England? http://editorial.health.org.uk/publications/reports/the-value-of-investing-in-social-care
The Kings Fund. (2022a). NHS Workforce: our position. https://www.kingsfund.org.uk/projects/positions/nhs-workforce
The Kings Fund. (2022b). Social Care in a Nutshell. https://www.kingsfund.org.uk/projects/nhs-in-a-nutshell/social-care-nutshell
UK Gov, & Department of Health and Social Care. (2021). People at the Heart of Care – Adult Social Care Reform White Paper. www.gov.uk/official-documents
Llywodraeth Cymru. (2022a). Staff Gofal Cymdeithasol i ennill y Cyflog Byw Gwirioneddol. https://gov.wales/social-care-staff-earn-real-living-wage
Llywodraeth Cymru. (2022b). Datganiad Ysgrifenedig: Hwb ariannol o £10 miliwn ar gyfer gofal cartref yng Nghymru. https://gov.wales/written-statement-10-million-funding-boost-domiciliary-care-wales
Senedd Cymru. (2022). Dim seibiant i ofalwyr di-dâl wrth i'r pwysau barhau i gynyddu. https://ymchwil.senedd.cymru/erthyglau-ymchwil/dim-seibiant-i-ofalwyr-di-dal-wrth-i-r-pwysau-barhau-i-gynyddu/