Economeg iechyd mewn perthynas â lles a meithrin lles, newid hinsawdd a'r angen am feddylfryd system drawsddisgyblaethol
Gan: R. T. Edwards
Gan fod 24 o baneli solar ynghlwm wrth ein to, a dau fatri enfawr yn cael eu gosod ynghyd â system gwresogi ffynhonnell aer, o’r diwedd, rwy’n dechrau darllen am yr argyfwng hinsawdd. Yn ei llyfr arloesol, This changes everything, (2015) mae Naomi Klein yn trafod troi ein pennau oddi wrth yr argyfwng hwn, gan ei adael i’r amgylcheddwyr a gwyddonwyr newid hinsawdd. Bydd ein paneli solar, ein batris a'n system wresogi ffynhonnell aer yn cynhyrchu hanner ein hanghenion trydan, a bydd ein defnydd o olew’n gostwng 85 y cant. Rydym yn byw yng nghefn gwlad Ynys Môn, ac yn gyrru hen Land Rover, yr wyf yn rhagweld y bydd mewn amgueddfa ymhen 20 mlynedd. Rwy'n cofio hafau braf a sych cyson pan oeddem yn trin gwair ar y caeau – yn gwneud beliau gwair bach go iawn; erbyn heddiw, rydyn ni, fel pawb arall, yn lapio silwair llaith yn fyrnau plastig crwn. Rwy'n cofio eira ar y traeth, i lawr at y llanw, a sledio i lawr cae hynod serth gyda'r plant. Nid ydym wedi gweld eira o’r fath ers pymtheg mlynedd. Nid ymgais i geisio ymddangos yn wyrdd yn unig yw fy mhaneli solar. I'r gwrthwyneb yn llwyr. Rwy’n teimlo’n siomedig ei bod wedi cymryd mor hir i mi ddeffro a dechrau darllen am y newid yn yr hinsawdd, a throi fy niddordebau ymchwil yn y maes atal ac iechyd y cyhoedd tuag at fygythiad enfawr y newid yn yr hinsawdd. O ran fy ngwaith fel economegydd iechyd, rwyf wedi ymroi dros ddeng mlynedd ar hugain i gymhwyso economeg iechyd i iechyd y cyhoedd ac atal afiechydon cronig y gellir ei osgoi, anabledd a marwolaeth gynamserol, ond dim ond nawr yr wyf yn sylweddoli maint yr effeithiau negyddol y mae’r newid yn yr hinsawdd, yr ydym eisoes yn ei brofi, yn eu cael ar iechyd.
Mae adroddiad o’r Deyrnas Unedig yn rhestru deuddeg prif fygythiad iechyd yn sgil y newid yn yr hinsawdd (a ddangosir yn y ffeithlun isod). Yn eu plith mae eithafion gwres ac oerfel, llifogydd, ansawdd aer gwael, alergeddau, clefydau heintus, clefydau a gludir gan fector, tanau gwyllt, sychder a diogelu’r cyflenwad bwyd, a thai gwael (Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig, 2023).
Ffigur 1. Bygythiadau iechyd i’r Deyrnas Unedig yn sgil y newid yn yr hinsawdd (Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig, 2023)
Fel economegydd iechyd, rwyf wedi bod yn eithaf hwyr i ddarllen y llenyddiaeth Iechyd Cyfunol, sy'n cysylltu iechyd dynol ag anifeiliaid a'r blaned (Leandri & Dalmas, 2024). Mae pennod olaf ein llyfr newydd, Health economics of well-being and well-becoming across the life-course (Edwards & Lawrence, 2024) yn trafod bygythiadau’r newid yn yr hinsawdd, ond rwyf bellach yn sylweddoli y dylai’r bygythiadau hyn fod wedi’u cynnwys yn y bennod gyntaf yn ôl pob tebyg, o ystyried eu pwysigrwydd.
Sut allwn ni, fel economegwyr iechyd, fod o unrhyw ddefnydd i’r her fyd-eang hon? Rydym wedi arfer canolbwyntio’n drylwyr ar gyfrifo cost-effeithiolrwydd cyffuriau a gwasanaethau iechyd newydd ar systemau iechyd. Drwy ddatblygiadau ym maes economeg iechyd y cyhoedd, yr wyf yn falch o fod wedi cyfrannu atynt (gweler Edwards & MacIntosh, 2019), rydym wedi ehangu’r gofod gwerthusol i gymryd safbwynt mwy cymdeithasol ar draws sectorau, ynghyd â gwaith pobl eraill (Walker et al., 2019). Nid yw fframweithiau o’r fath yn ystyried anferthedd y newid yn yr hinsawdd a’u heffaith ryngwladol wrth werthuso costau a chanlyniadau pan fyddant yn cwmpasu llawer o wahanol sectorau’r economi.
Yr wythnos diwethaf oedd y tro cyntaf i mi deimlo fy mod yn gallu cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth fel economegydd iechyd i ddadlau’r achos dros weithredu ar y cyd yn rhyngwladol ar fygythiadau’r newid yn yr hinsawdd o ran iechyd a llesiant. Ynghyd â fy nghydweithiwr, Dr Sofie Roberts, ymunais â gweminar a gynhaliwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd i ymgynghori ar effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar iechyd. Roeddwn yn rhyfeddu wrth i alwr ar ôl galwr, o bedwar ban byd, ymuno â'r gweminar. Daeth cwestiynau a sylwadau gan ymarferwyr iechyd cyhoeddus ym Mhacistan, cyrff anllywodraethol yn Nigeria, academyddion yn Llundain, a myfyrwyr yn yr Almaen. Cefais fy synnu o weld Sofie a minnau ymhlith dim ond llond llaw o academyddion o’r Deyrnas Unedig, a’r unig economegwyr iechyd ar yr alwad. Yn dilyn yr alwad, cawsom gyfle i weld yr adroddiad drafft sy'n cael ei baratoi gan dîm Sefydliad Iechyd y Byd i'w gyflwyno i COP29 yn Azerbaijan. Treuliais y diwrnod wedyn yn cwblhau taenlen yn gofyn am dystiolaeth, cyfeiriadau a ffynonellau data sy'n berthnasol i bob adran o'r adroddiad drafft. Ar ôl deng mlynedd ar hugain yn y byd academaidd, prin yw'r adegau sy'n fy ysbrydoli a'm cyffroi. Roedd hwn yn un ohonynt. O bosibl, roeddem yn anfon deunydd a allai ei gynnwys yn adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer COP29. Yn yr un wythnos, cyfrannodd Sofie a minnau at Ford Gron Newid Hinsawdd y Gymdeithas Ewropeaidd er Ymchwil i Atal ar Sbarduno Cymunedau i Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd: Strategaethau ar gyfer ffyrdd Effeithiol o Ymgysylltu ac Atal. Unwaith eto, ni oedd yr unig economegwyr iechyd ar yr alwad.
Fel economegwyr iechyd, gallwn ddewis gweithio o fewn ein maes diddordeb proffesiynol agos, ond o bosibl, gallwn gael effaith fwy cadarnhaol ar ymchwil ac iechyd a lles y boblogaeth trwy weithio gydag ymchwilwyr ar draws gwahanol ddisgyblaethau. Gallwn wneud hyn mewn sawl ffordd wahanol. Gallwn weithio mewn ffordd amlddisgyblaethol, lle mae pobl o wahanol ddisgyblaethau’n cydweithio, pob un yn tynnu ar eu gwybodaeth ddisgyblaethol. Gallwn weithio mewn ffordd ryngddisgyblaethol, lle rydym yn cyfrannu at integreiddio gwybodaeth a dulliau o wahanol ddisgyblaethau, gan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau. Ac yn fwyaf anturus oll, gallwn weithio mewn ffordd drawsddisgyblaethol, lle gallwn greu undod o fframweithiau deallusol y tu hwnt i’n fframweithiau disgyblaethol penodol.
O ran cyfraniad posibl economegwyr iechyd wrth fynd i’r afael â’r bygythiadau i iechyd a llesiant yn sgil y newid yn yr hinsawdd anochel, credaf fod angen inni weithio mewn ffordd drawsddisgyblaethol. Mae enghreifftiau o gydweithio amlddisgyblaethol lle mae economegwyr iechyd eisoes yn gwneud cyfraniad yn cynnwys: ymgorffori allyriadau carbon mewn asesiadau technoleg iechyd (gan gynnwys dadansoddiad cost-effeithiolrwydd) (McAlister et al., 2022); amlygu allyriadau carbon systemau gofal iechyd (Pichler et al., 2019), ac yn olaf, y manteision o gynyddu mannau gwyrdd yn ystâd y system iechyd (Holt et al., 2023).
Yr hyn sy'n fwy cyffrous yw sut mae economegwyr iechyd bellach yn dechrau ystyried, ar lefel systemau, natur gylchol a chwrs bywyd effaith y newid yn yr hinsawdd ar gyfiawnder cymdeithasol a systemau gofal iechyd ar lefel ryngwladol (Borghi & Kuhn, 2024; Edwards, 2022).
Gyda chefndir mewn economeg, dim ond nawr yr wyf yn dechrau gwerthfawrogi’r berthynas agos rhwng y newid yn yr hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol a chyfalafiaeth. Fel Athro Cyfiawnder Hinsawdd ym Mhrifysgol Colombia Brydeinig, Vancouver, mae Naomi Klein yn herio’r farn y bydd technoleg newydd yn ein hachub. Mae hi’n ein didwyllo i’r ffaith bod rhoi gwerth ar allyriadau carbon a’r amgylchedd naturiol drwy farchnadoedd ar gyfer gwasanaethau ecosystemau, a’r hawl i’w difrodi, yn mynd i ddarparu ateb. “Mae ei datrysiad yn gofyn am ad-drefnu ein system economaidd mewn ffordd radical” (New York Times).
Ddoe, cynhyrchodd ein paneli solar newydd 18 cilowat-awr o ynni. Mae hyn yn ddigon o ynni i redeg peiriant golchi llestri 18 gwaith. Mae anferthedd y newid yn yr hinsawdd yn sydyn o fewn cyrraedd lle mae’n bosibl i ni wneud rhywbeth bach ein hunain gartref, Mae'n bwysig ein bod yn aros yn bositif, ar lefel broffesiynol a phersonol. Cofiaf ysgrifen Peter Marshall (1902–1949; Caplan Senedd yr Unol Daleithiau): ''Gyda chalon gref y gwelwn gyfle ym mhob trychineb, a pheidio ildio i'r besimistiaeth sy'n gweld trychineb ym mhob cyfle''.
Cyfeiriadau
Borghi, J., & Kuhn, M. (2024). A health economics perspective on behavioural responses to climate change across geographic, socio-economic and demographic strata. Environmental Research Letters, 19(8), 081001.
Edwards, R. T. (2022). Well-being and well-becoming through the life-course in public health economics research and policy: A new infographic. Frontiers in Public Health, 10, 1035260.
Edwards, R. T., & Lawrence, C. L. (Gol.). (2024). Health economics of well-being and well-becoming across the life-course. Oxford University Press.
Edwards, R.T., & McIntosh, E. (Gol.). (2019). Applied health economics for public health practice and research.Oxford University Press.
Holt, A., Cowap, C., Johnson, N., & Edwards, R. T. (2023). NatureScot Research Report 1338-Valuing the health and well-being benefits of the NHS outdoor estate in Scotland. https://www.nature.scot/doc/naturescot-research-report-1338-valuing-health-and-well-being-benefits-nhs-outdoor-estate-scotland
Klein, N. (2015). This changes everything: Capitalism vs. the climate. Simon and Schuster.
Leandri, M., & Dalmas, L. (2024). One Health Economics: why and how economics should take on the interdisciplinary challenges of a promising public health paradigm. Frontiers in Public Health, 12, 1379176.
McAlister, S., Morton, R. L., & Barratt, A. (2022). Incorporating carbon into health care: adding carbon emissions to health technology assessments. The Lancet Planetary Health, 6(12), e993-e999.
Pichler, P. P., Jaccard, I. S., Weisz, U., & Weisz, H. (2019). International comparison of health care carbon footprints. Environmental Research Letters, 14(6), 064004.
UK Health Security Agency. (2023). Health effects of climate change (HECC) in the UK. State of the evidence 2023. https://assets.publishing.service.gov.uk/media/659ff6a93308d200131fbe78/HECC-report-2023-overview.pdf
Walker, S., Griffin, S., Asaria, M., Tsuchiya, A., & Sculpher, M. (2019). Striving for a societal perspective: a framework for economic evaluations when costs and effects fall on multiple sectors and decision makers. Applied Health Economics and Health Policy, 17, 577-590.