Asesu gwerth grwpiau cefnogi dementia

Bydd ymchwil newydd i heneiddio a dementia ym Mhrifysgol Bangor yn mynd rhagddi cyn bo hir, gyda thîm o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd. Dyma'r unig brifysgol yng Nghymru i gael arian fel rhan o Fenter Ymchwil i Ddementia 2018 yr ESRC-NIHR.

Mae'r rhaglen waith hon, dan arweiniad partneriaid yng Ngholeg Prifysgol Llundain, yn canolbwyntio ar bobl sy'n byw gyda dementia prin. Bydd yn cynnwys yr astudiaeth fawr gyntaf o werth grwpiau cefnogi i bobl sy'n byw gyda rhywun sydd â math o ddementia, neu sy'n gofalu amdanynt.

Mae hyn yn bwysig oherwydd bod tua chwarter o'r bobl â dementia gydag un o'r ffurfiau llai cyffredin (nid clefyd Alzheimer neu ddementia fasgwlar nodweddiadol). Mae'r dementias prin hyn yn fwy cyffredin ymhlith pobl ifanc (dan 65 oed), sy'n aml yn dal i orfod rheoli gwaith, gofal plant a morgais. Mae cael diagnosis yn aml yn anodd ac yn araf, ac nid yw'r gwasanaethau sydd ar gael yn dilyn diagnosis yn aml yn diwallu anghenion pobl. Yn benodol, nid yw grwpiau cefnogi cyffredinol a chaffis dementia yn teimlo'n berthnasol yn aml, gan fod pobl eraill sy'n mynychu yn aml yn hŷn, mewn sefyllfa wahanol ac mae ganddynt symptomau gwahanol.

Mae arweinydd Bangor, yr Athro Gill Windle, cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil DSDC Cymru yn dweud "rydym wrth ein bodd o gael cydweithio ar y rhaglen ymchwil hon. Bydd yn ein galluogi ni i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl sy'n byw gyda dementia a'r rhai sy'n gofalu amdanynt."

Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros gyfnod o bum mlynedd. Mae'n creu swyddi newydd i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, efrydiaeth PhD i'r Ysgol Seicoleg gyda Dr. Rebecca Sharp, a rhagor o gyfleoedd PhD. Dros y pum mlynedd, bydd tîm yr Athro Windle yn datblygu a phrofi ffordd newydd o fesur gwydnwch pobl sy'n byw gyda dementia. Dim ond yn ddiweddar iawn y mae pobl wedi dechrau meddwl am sut y gallai pobl â dementia gyflawni canlyniadau cadarnhaol a gwytnwch, ond nid oes unrhyw fesurau ar gyfer ymchwil ac ymarfer i'w defnyddio.

Bydd pwysigrwydd iaith a daearyddiaeth hefyd yn cael ei ystyried trwy gydol y gwaith hwn, a bydd tîm yr Athro Windle yn gweithio gyda Dr. Mary Pat Sullivan, Prifysgol Nipissing yng nghefn gwlad Ontario, Canada. "Tynnodd ein hymchwiliadau cychwynnol sylw at absenoldeb amlwg ymchwil gyfoes a gwybodaeth am effaith dementia yng nghefn gwlad Cymru a Chanada. Felly, byddwn yn datblygu astudiaethau cymharol, gan adeiladu ar rai o'n cysylltiadau gwaith ardderchog â phobl sy'n byw gyda dementia er mwyn cael dealltwriaeth o'r newydd," meddai Gill Windle.

Mae'r Athro Rhiannon Tudor Edwards, Cyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddygaeth (CHEME) yn arwain y dadansoddiad economaidd. Gan adeiladu ar ei phortffolio o astudiaethau dementia, bydd ei thîm yn datblygu ac yn profi dulliau gweithredu newydd ar gyfer y dadansoddiad economaidd, o ran effeithiolrwydd cost grwpiau cefnogi.

Meddai: “Gall cynnal gwerthusiad economaidd o wasaethau i bobl sydd â dementia arwain at sawl her gymhleth i economegwyr iechyd, sydd angen sicrhau ein bod yn adnabod, mesur a rhoi gwerth ar yr holl gostau a’r canlyniadau i bobl sy’n byw â dementia, teuluoedd, sydd yn aml yn ofalwyr anffurfiol, a gwasanaethau ffurfiol a thrydydd sector.  Rydym yn falch iawn o allu cydweithio ar y rhaglen ymchwil yma i wella bywydau pobl sy’n byw â chyflyrau dementia anghyffredin, gan adeiladu ar ein record blaenorol ym maes economeg dementia.”

Bydd Dr Zoe Hoare, Prif Ystadegydd â Sefydliad Hap-dreialon Iechyd Gogledd Cymru (NWORTH CTU) yn darparu arbenigedd ystadegol ar draws y project, ac yn arwain ar y gwaith o ddadansoddi ymarferoldeb Hap-brawf gyda Rheolydd (RCT).

Dywedodd: “Mae gennym arbenigedd mewn gwerthuso ymyriadau cymhleth ar gyfer dementia ac rydym wrth ein boddau gyda’r cyfle i gydweithio efo’r tîm i gefnogi rhai gyda dementia prin.”

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2019