Chwilio am gyfranogwyr ar gyfer astudiaeth dull hyfforddi lles emosiynol 12-mis

Am nifer o flynyddoedd, mae triniaethau ar gyfer iechyd meddwl wedi bod yn glinigol yn bennaf, gan gynnwys ymyriadau ffarmacolegol a seicolegol.

Yn aml mae gan therapïau siarad amseroedd aros hir, gyda chanlyniadau negyddol i ganlyniadau cleifion a'u lles yn y dyfodol. 

Cydnabyddir yn eang bod diffyg darpariaeth gofal iechyd meddwl statudol, a'i fod yn anaddas i nifer sylweddol o unigolion. Gallai mynediad at ymyriadau amgen effeithiol helpu i fynd i'r afael ag anghenion iechyd meddwl heb eu diwallu, hyrwyddo sgiliau bywyd gwell, hwyluso grymuso, a gwella canlyniadau lles meddyliol.  

Darperir un ateb arloesol o'r fath gan Hayler Wheeler, sylfaenydd hyfforddiant EmotionMind Dynamic (EMD) Coaching, sef mesur ei werth cymdeithasol mewn astudiaeth 12 mis.  

Mae EMD yn cyfuno hyfforddi, addysgu, mentora, cwnsela ac ymwybyddiae.th ofalgar i wella lles emosiynol a hunan-barch. Yn ei dull unigryw, mae Hayley a'r cleient yn gweithio gyda'i gilydd i rannu profiadau trwy fethodolegau sydd wedi'u cynllunio i hyrwyddo lefelau ymddiriedaeth sy'n hwyluso gallu cyrchu emosiynau sydd â gwreiddiau dwfn, ac i ddatgloi eu potensial.  

Ar hyn o bryd mae EMD Coaching yn recriwtio 60 o gyfranogwyr ar gyfer yr astudiaeth Cyflymu newydd. Os hoffech chi gymryd rhan yn yr astudiaeth hon trwy dderbyn chwe sesiwn o hyfforddiant EMD ar-lein yn Gymraeg neu yn Saesneg, cysylltwch â Hayley Wheeler ar 07966189084 neu hayley@hayleytwheeler.co.uk  

Mae Dr Mary Lynch o Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol Bangor yn arwain yr astudiaeth sy’n cael ei gefnogi gan Rhaglen Cyflymu a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn Hwb Arloesi Clinigol Prifysgol Caerdydd a chyda Thîm Arloesi a Gwella Ymchwil Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, bydd astudiaeth newydd 12 mis yn mesur gwerth cymdeithasol Hyfforddiant EMD. 

Dywed Hayley: “Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau therapiwtig yn gweithio gyda'r problemau a'r symptomau y mae cleientiaid yn eu hadrodd ar yr wyneb yn unig. Er mwyn cael newid hirdymor, mae angen iddynt gyrchu'r achos sylfaenol. Mae dull anghlinigol a phroffesiynol yn hollbwysig wrth weithio gydag iechyd meddwl a lles pobl. Mae Hyfforddiant EMD yn galluogi cleientiaid i rannu eu meddyliau a'u hemosiynau dyfnaf gyda therapydd, a all helpu i drawsnewid y boen honno yn hunan-rymuso." 

Dywed Mary o Brifysgol Bangor: “Rydym yn gyffrous i ymuno â Hayley Wheeler a’r tîm Cyflymu i gynnal gwerthusiad Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) o’r rhaglen EMD. Dylai'r dull cydweithredol hwn rhwng academyddion a Hayley roi dealltwriaeth werthfawr o'r dull anghlinigol arloesol hwn o fynd i'r afael ag iechyd a lles meddwl.”   

Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2021