Diogelu Data

Yn ystod 2018, newidiodd y gyfraith mewn perthynas â diogelu data. Mae gweithredu'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), a'r Ddeddf Diogelu Data 2018 newydd wedi newid y ffordd mae Prifysgol Bangor yn casglu, defnyddio a storio gwybodaeth bersonol am unigolion (data personol).  Mae'r brifysgol wedi newid ei phrosesau er mwyn rhoi ystyriaeth i’r newidiadau hyn, ac mae'r prif bolisïau a'r gweithdrefnau wedi cael eu diwygio.    

Swyddog Diogelu Data Prifysgol Bangor yw Gwenan Hine, Pennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio 

Mae Polisi Diogelu Data'r brifysgol, sy'n esbonio sut mae'r brifysgol yn rheoli'r gwaith o ddiogelu data, ar gael yma: 

Canllawiau ar Ddiogelu Data

Mae ein hysbysiadau preifatrwydd ar gyfer cleifion a phartneriaid ymchwil, sy'n rhoi rhagor o fanylion ar sut mae CHEME yn defnyddio data personol yn ein swyddogaeth fel canolfan economeg iechyd, ar gael yma:  

Hysbysiad preifatrwydd CHEME 

Mae ein Hasesiad Effaith Diogelu Data, sy'n esbonio sut rydym yn trin data electronig cleifion, ar gael yma: 

Asesiad Effaith Diogelu Data CHEME 

Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2018