Efrydiaeth PhD a ariennir gan MRC yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau

Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Feddygol yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, Prifysgol Bangor.

Mae'r efrydiaeth yn un llawn-amser am 3 blynedd, a darperir cefnogaeth lawn ar gyfer ffioedd dysgu, yr holl gostau ymchwil cysylltiedig yn ogystal â chyflog blynyddol di-dreth o £ 17,726. 

Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Lerpwl a Pfizer, nod y PhD hwn fydd i ddatblygu a chymhwyso dadansoddiadau pharmacometric-pharmacoeconomic mewn datblygu cyffuriau clinigol. 

Cliciwch yma am fwy o fanylion. 

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Athro Dyfrig Hughes

Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2014