Hwb mawr i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o fethodolegwyr treialon

Mae’r Trials Methodology Research Partnership DTP yn dwyn ynghyd 12 partner - Prifysgol Bangor, Prifysgol Lerpwl (arweiniol), yr Institute of Cancer Research, Prifysgol Newcastle, Prifysgol y Frenhines Mary Llundain, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Aberdeen, Prifysgol Birmingham, Prifysgol Caergrawnt, Prifysgol Glasgow, Prifysgol Leeds a Phrifysgol Plymouth) i ddarparu hyfforddiant doethurol i 30 o fyfyrwyr dros y 3 blynedd nesaf.

Mae'r bartneriaeth DTP yn un o 17 project a gyllidir gan yr MRC fel rhan o fuddsoddiad gwerth £79 miliwn i gefnogi rhaglenni hyfforddiant doethurol o ansawdd uchel sy'n defnyddio dull myfyriwr-ganolog, gan ganolbwyntio ar ragoriaeth wyddonol, diwylliant ymchwil cadarnhaol a chyfleoedd hyfforddi ehangach.

Bydd y bartneriaeth DTP yn datblygu ac yn hyfforddi carfan o ymchwilwyr sydd â sgiliau methodolegol y tu hwnt i dreialon clinigol, gan lenwi bwlch blaenoriaeth sgiliau strategol.

Meddai’r Athro Dyfrig Hughes, o Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, Prifysgol Bangor:

“Mae treialon wedi eu cynllunio'n dda yn hanfodol bwysig i ddangos manteision ymyriadau gofal iechyd.” 

“Ym Mangor, rydym yn canolbwyntio'n bennaf ar y dulliau o asesu gwerth meddyginiaethau a thechnolegau iechyd eraill i'r GIG, gan ddefnyddio data o dreialon clinigol. Nod y DTP hwn yw gwella'r cyfleoedd i fyfyrwyr mewn perthynas ag arbenigedd sgiliau amlddisgyblaethol. Cynlluniwyd y DTP yn ofalus a bydd y rhaglen hyfforddi 'graidd' strwythuredig yn cael ei hategu gan amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi dewisol mwy arbenigol.  Bydd yn rhoi cyfle iddynt ennill profiad a chael hyfforddiant gan ymchwilwyr o amrywiaeth ehangach o ddisgyblaethau ac o wahanol fathau o sefydliadau ymchwil, a fydd yn rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o'r amgylchedd treialon ac yn gwella eu cyfleoedd gyrfa."

Mae'r Trials Methodology Research Partnership yn adeiladu ar lwyddiant yr MRC Network of Hubs for Trials Methodology Research a gafodd ei greu i wella iechyd trwy wella treialon.

Meddai’r Athro Fiona Watt, Cadeirydd Gweithredol, MRC:

“Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein cyllid i’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr PhD MRC trwy 17 o wobrau partneriaeth hyfforddiant doethurol newydd ledled y  Deyrnas Unedig. Dim ond pan fyddwn yn buddsoddi mewn pobl i wneud yr ymchwil y mae ymchwil rhagorol yn bosib. Mae ein gwobrau newydd yn canolbwyntio ar y myfyriwr, gan geisio cynyddu amrywiaeth yr unigolion sy'n dilyn gyrfaoedd ymchwil ac yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ehangu eu gorwelion yn ystod eu doethuriaeth ac wedi hynny.”

Mae buddsoddi mewn hyfforddiant doethurol yn rhan allweddol o weledigaeth yr UK Research and Innovation (UKRI) 
a’r MRC i ddatblygu talent a sgiliau ymchwil. 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2021