Llwyddiant dwbl yng nghynhadledd yr "International Society for Pharmacoeconomics and Outcomes Research"

⁠Enillodd Emily Holmes o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor y wobr am y cyflwyniad gorau ac enillodd Dr Paul Parham, o'r un ganolfan, y wobr am y cyflwyniad gorau gan ymchwilydd newydd yn 16eg gynhadledd Ewropeaidd flynyddol yr "International Society for Pharmacoeconomics and Outcomes Research" (ISPOR) yn Nulyn ar 6 Tachwedd.

Roedd bron i 4,000 o bobl yn y gynhadledd, a oedd yn cynnwys dros 1,800 o gyflwyniadau, ac felly mae'r llwyddiant yn un arwyddocaol iawn ac yn adlewyrchu ansawdd eu hymchwil. Roedd cyflwyniad Emily yn disgrifio defnyddio dulliau economeg ymddygiadol i ddeall y broses o ymroi i gymryd meddyginiaeth ac roedd cyflwyniad Paul yn trafod dull arloesol o leihau ansicrwydd mewn modelau dadansoddi penderfyniadau.

Dywedodd yr Athro Dyfrig Hughes am eu llwyddiant:

"Mae hyn yn destun balchder mawr i CHEME ac mae'n dangos safon ryngwladol yr ymchwil rydym yn ei wneud yn y ganolfan. Mae Emily a Paul, a'u cydweithwyr, wedi gweithio'n hynod o galed i gynhyrchu ymchwil sy'n ein helpu i ddeall pam nad yw cleifion yn cadw at driniaeth yn llawn a bydd hynny'n cael effaith ar y dulliau sy'n cael eu defnyddio i werthuso economeg iechyd".

Ceir rhagor o wybodaeth am y gynhadledd yn www.ispor.org

Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2013