Llyfr newydd Gorffennaf 2024: Economeg Iechyd Lles a Llesiant ar draws Cwrs Bywyd

Mae Grŵp Ymchwil Economeg Iechyd y Cyhoedd ac Ataliol (PHERG) wedi cyd-ysgrifennu llyfr newydd o'r enwHealth Economics of Well-being and Well-becoming across the Life-course. Cyd-olygwyd y llyfr gan yr Athro Rhiannon Tudor Edwards a Dr Catherine Lawrence, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen, ac mae ar gael i’w brynu o fis Gorffennaf 2024.

Amdan y llyfr

Mae economeg iechyd atal yn hanfodol i wella ein hiechyd a'n lles. Yn y llyfr hwn rydym yn Dyma lun o glawr y llyfr. Mae'n gefndir oren a'r brif ddelwedd yw drysfa gron.argymell y cysyniad o “lesiant”. Mae iechyd y cyhoedd yn ymwneud â gwella iechyd y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau a chreu, fel cymdeithas, cyfleoedd iechyd cwrs bywyd da. Mae Health Economics of Well-being and Well-becoming across the Life-course yn dilyn model cwrs bywyd gyda phenodau wedi’u halinio â beichiogrwydd a’r blynyddoedd cynnar; yr arddegau; oedran gweithio; a chyfnodau oedran hŷn o fywyd. Mae’n galluogi’r darllenydd i feddwl am oedran hŷn mewn ffordd wahanol ac yn gofyn iddynt ystyried lle y dylem fod yn buddsoddi mewn ymyriadau cost-effeithiol i gefnogi atal afiechyd cronig, anabledd, a marwolaeth gynamserol yn ddiweddarach mewn bywyd. Yn y llyfr hwn rydym yn nodi agenda ar gyfer arallgyfeirio ymchwil economeg iechyd a chymorth polisi ym maes iechyd y cyhoedd ac economeg atal sy’n ymwneud â lles a llesiant. Mae'r llyfr hwn ar gyfer economegwyr iechyd, ymchwilwyr iechyd y cyhoedd a systemau iechyd, myfyrwyr economeg iechyd, meddygaeth ac iechyd y cyhoedd, yn ogystal â llunwyr polisi lleol a chenedlaethol.

Mae llawer o gydweithwyr PHERG yn y gorffennol a’r presennol wedi cyd-ysgrifennu penodau o’r llyfr hwn – diolchwn iddynt am eu cyfraniad. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau'r llyfr!

Penodau yn y llyfr

  • Pennod 1: Introduction

Rhiannon T. Edwards, Catherine L. Lawrence, Bethany F. Anthony, Lucy Bryning

  • Pennod 2: Cross-cutting Themes Influencing Well-being and Well-becoming across the Life-course

Llinos H. Spencer, Ned Hartfiel, Mary Lynch, Nathan Bray, Bethany F. An­thony, Catherine L. Lawrence, Rhiannon T. Edwards

  • Pennod 3: Well-being in the Early Years and Childhood

Lucy Bryning, Bethany F. Anthony, Nathan Bray, Huw Lloyd-Williams, Joanna Charles, Lorna Tuersley, Catherine L. Lawrence, Rhiannon T. Edwards

  • Pennod 4: The Well-being and Well-becoming of Adolescents and Young Adults

Alexander Torbuck, Eira Winrow, Huw Lloyd-Williams, Catherine L. Law­rence, Rhiannon T. Edwards

  • Pennod 5: Well-being of the Workforce

Bethany F. Anthony, Llinos H. Spencer, Lucy Bryning, Huw Lloyd-Williams, ­Catherine L. Lawrence, Rhiannon T. Edwards

  • Pennod 6: Living Well for Longer

Carys Stringer, Lucy Bryning, Llinos H. Spencer, Bethany F. Anthony, Victory Ezeofor, Catherine L. Lawrence, Rhiannon T. Edwards

  • Pennod 7: Dying Well

Carys Stringer, Eira Winrow, Kalpa Pisavadia, Catherine L. Lawrence, Rhian­non T. Edwards

  • Pennod 8: Diversifying Health Economics to Provide a Life-course Lens on Health, Well-being, and Well-becoming

Rhiannon T. Edwards, Catherine L. Lawrence, Abraham Makanjuola

Cymeradwyo’r llyfr

“Mae’r llyfr hwn yn cynnig golwg newydd a heriol ar rôl economeg iechyd.”

Mike Drummond, Athro Emeritws, Prifysgol Efrog.

 “Mae’r llyfr hwn yn chwa o awyr ddadansoddol ac empirig ffres. Mae’r awduron a’r golygyddion yn amlinellu – yn berswadiol – eu hagwedd at gysyniad, deall, rhoi tystiolaeth a gweithredu’r achos economaidd dros hybu iechyd, llesiant a ‘llesiant’ ar wahanol gyfnodau bywyd a thrwy gymryd persbectif cwrs bywyd. Mae’n haeddu cael ei darllen yn eang a gweithredu arni’n eang.”

Martin Knapp, Athro Polisi Iechyd a Gofal Cymdeithasol, LSE

“Mae’r llyfr hwn yn ychwanegiad wedi’i amseru’n berffaith i’r llenyddiaeth economeg iechyd gyfredol. Gyda phwysigrwydd ‘atal’ yn greiddiol iddo, mae’r llyfr hwn yn amlygu nid yn unig arwyddocâd llesiant yn ein bywydau modern ond hefyd natur ddeinamig yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i ni wrth i ni weithio drwy gwrs ein bywyd o fewn y naratif. Mae'r llyfr hwn yn galw am arallgyfeirio economeg iechyd fel disgyblaeth gyda mwy o sylw i fanteision gweithio rhyngddisgyblaethol, yr angen am ddysgu dwy-gyfeiriadol gyda'r De Byd-eang a llesiant y planed. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb yng nghyfeiriad economeg iechyd fel disgyblaeth, rhaid darllen hwn!”

Emma McIntosh, Athro Economeg Iechyd, Prifysgol Glasgow 

"Gan adeiladu ar 30 mlynedd o waith, ac wedi’u symbylu gan y profiad diweddar o fyw drwy’r pandemig Covid, mae Edwards a’i chydweithwyr wedi rhoi achubiaeth i ni. Wrth symud y ffordd o ffeddwl, o fewn fframwaith o gwrs bywyd, maent wedi adfer y ddisgyblaeth i’w gwreiddiau mewn gweinyddiaeth gymdeithasol gadarn.”

Yr Athro Dr John R Ashton C.B.E., Cyn Lywydd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd y Deyrnas Unedig.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2024