Chwefror 2024

SuLlMaMeIGSa
123
45678910
11121314151617
18192021222324
2526272829

Economeg iechyd ar gyfer prosiectau amgylcheddol, cynaliadwyedd a lles yng nghyd-destun ymchwil Un Iechyd a Llefydd Newid Hinsawdd

Lleoliad:
Ardudwy, Safle Normal, Prifysgol Bangor. LL57 2PZ
Amser:
Dydd Mawrth 6 Chwefror 2024, 12:30–13:30

Gan adeiladu ar dwf cydweithio ymchwil ar Un Iechyd a Llefydd Newid Hinsawdd (PloCC) ar draws Prifysgol Bangor a chyda phartneriaid allanol, rydym yn cynnal gweithdy wyneb yn wyneb yn archwilio sut y gellir ymgorffori dulliau economeg iechyd mewn ceisiadau grant ar gyfer ymchwil. Ar y diwrnod byddwn yn rhoi trosolwg o ddulliau gwerthuso economaidd os ydi economeg iechyd yn newydd i chi. Os oes gennych brosiect neu gais am grant yr hoffech ychwanegu economeg iechyd ato, neu os ydych eisoes yn defnyddio economeg iechyd, anfonwch deitl ar gyfer sgwrs 5 munud yn y gweithdy hwn. Gallai hwn fod yn brosiect a ariennir eisoes sy’n defnyddio economeg iechyd neu’n gais grant sydd ar y gweill a hoffech ymgorffori economeg iechyd ynddo. Rydym yn croesawu cyfraniadau gan bob Coleg ar draws y Brifysgol.

Mae’r gweithdy yma’n agored i bawb, gan gynnwys myfyrwyr ôl-raddedig neu unrhyw ymchwilwyr sydd â diddordeb.

Bydd rhaglen yn cael ei hanfon allan fis Ionawr. Rhagwelwn bydd y fformat yn cynnwys trosolwg o flwch offer economeg iechyd, cyfle i glywed hyd at 10 o sgyrsiau byr, ac yna clinig lle gall ymchwilwyr drafod eu syniadau un-i-un ar gyfer ymgorffori economeg iechyd mewn ceisiadau grant.

Os gwelwch yn dda, archebwch eich lle drwy Dr Sofie Roberts s.a.roberts@bangor.ac.uk. Cysylltwch â Sofie i drafod y cyfle o roi sgwrs 5-munud, neu os oes gennych unrhyw gwestiwn am y diwrnod.