Llesdyfiant Cymru: Economeg Iechyd a'r Dewisiadau ôl-Bandemig sydd o'n Blaenau

Rhiannon Tudor Edwards

Postiwyd: 11.02.22

Dyma’r cyntaf mewn cyfres o flogiau ôl-bandemig ar gymhwyso ymchwil economeg iechyd i ‘lesdyfiant’ (‘”well-becoming”). Rydym yn clywed llawer iawn am les ar hyn o bryd ond ddim cymaint am ‘lesdyfiant’. Mae yna amryw o ddiffiniadau o les. Mae’r Oxford English Dictionary yn diffinio ‘well-being’ (lles) fel ‘…the state of being healthy, happy, or prosperous….’ Mae ymchwilwyr economeg ymddygiadol a seicoleg ymddygiadol wedi ymchwilio i’r hyn a olygir wrth hapusrwydd (Layard, 2020). Rwy'n hoff o ddiffiniad Paul Dolan o hapusrwydd fel "happiness in an experience with purpose" (Dolan, 2014). Hoffwn feddwl am lesdyfiant fel y profiad o lif neu newid dros gwrs bywyd. Dim ond ddwywaith ydw i wedi gweld y term “llesdyfiant” yn cael ei ddefnyddio. Mae’r cyntaf wedi codi o’r rhaglen datblygu mesur galluedd (Mitchell et al., 2021) ac mewn ymchwil addysg wrth wahaniaethu rhwng plant yn ‘bodoli’ ac yn ‘tyfu’ yn y byd (‘“being” and “becoming” in the world.’) (Cassidy a Mohr Lone, 2020). Yr hyn a olygir wrth ‘lens’ llesdyfiant yw pan fyddwn yn gwerthuso unrhyw ymyriad o ran ei gostau a’i fanteision ar hyn o bryd, ein bod hefyd yn meddwl ynglŷn á sut y bydd yn effeithio ar iechyd a lles yn ystod cyfnodau dilynol bywyd. Mae sut y byddwn yn pennu, siapio, a gosod ein hunain ar gyfer camau bywyd yn y dyfodol yn bleth ymhleth â hynny. 

Mae hon bron iawn yn ddadl wrthffeithiol ynglŷn â'r hyn a wyddom eisoes ar lefel poblogaeth. Gwyddom na fydd plant sydd wedi’u magu mewn tlodi neu sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod o bosib yn gwneud penderfyniadau bywyd da ac y bydd ganddynt iechyd corfforol a meddyliol gwaeth yn ddiweddarach yn eu bywydau (Hughes et al., 2017). Mae mynediad at addysg uwch lawer yn is yn achos pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal. Yn 2018-19 dim ond 13% o ddisgyblion oedd wedi bod mewn gofal parhaus am 12 mis neu fwy a aeth ymlaen i addysg uwch o’i gymharu â 43% o’r cyfanswm disgyblion eraill (Swyddfa Myfyrwyr, 2022). Isod mae delwedd a fydd yn gyfarwydd i'r rhai ohonoch sy'n fy adnabod, sy’n pwysleisio gwerth ataliad dros iachâd trwy gwrs bywyd.

https://cheme.bangor.ac.uk/health-blog-1.php_clip_image002.png
Ffynhonnell: Edwards et al. (2016)

Mae economeg iechyd yn astudio sut y byddwn yn defnyddio adnoddau gofal iechyd prin, ac yn gynyddol adnoddau gofal cymdeithasol, i ddiwallu ein hanghenion (Drummond et al., 2015). Yn ystod fy ngyrfa 30 mlynedd fel economegydd iechyd academaidd, rwyf wedi sylwi bod arnom angen cymryd persbectif ehangach yn gynyddol yn ein hymchwil i lywio polisi’r llywodraeth ar sail tystiolaeth. Dros y 150 mlynedd diwethaf, gellir dadlau bod y datblygiadau mwyaf arwyddocaol o ran disgwyliad oes wedi deillio o iechyd y cyhoedd, a bod hynny’n rhychwantu gwelliannau mewn glanweithdra, dŵr glân, tai, amodau gwaith ac addysg. Mae cymhwyso economeg iechyd at werthuso ymyriadau iechyd y cyhoedd yn codi nifer o heriau pellach heddiw. Mae gwerthuso ymyriadau i gefnogi newid ymddygiad, megis annog pobl i roi'r gorau i ysmygu, bwyta'n iach ac ymarfer corff, yn gofyn am gynlluniau ymchwil pragmatig na all bob amser fod ar ffurf hap-dreialon rheoledig safon aur. Efallai fod yr egwyddor ragofalus, sydd wedi cael ei defnyddio cymaint i lunio polisi ar frys trwy gydol y pandemig, yn fwy perthnasol yma. Mae’r egwyddor hon yn cyfuno tystiolaeth o safon aur â thystiolaeth fwy pragmatig a gwrthffeithiol ar sail ar ein credoau blaenorol, ein profiad byw a llais rhanddeiliaid, a chaiff ei diweddaru pan gwyd tystiolaeth newydd (Edwards a McIntosh 2019; Fischer a Ghelardi, 2016; Rhosyn, 2008).

Felly, beth allwn eu henwi fel dau ddewis ‘llesdyfiant’ a wynebir yng Nghymru wrth i ni gamu o’r pandemig? Yn gyntaf, rydym yn wynebu dewisiadau ynglŷn â gwario arian cyhoeddus ar blant a phobl ifanc a’u haddysg. Mae hyn yn erbyn cefndir o ddeddfwriaeth "Hawliau plant" newydd, ac yn hynny o beth, mae Cymru ar flaen y gad. Ble bydd buddsoddiad mewn gwirionedd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf, yn arbennig yn achos plant a phobl ifanc 0-18 oed sy’n agored i niwed ac o dan anfantais? Mae nifer fawr iawn o economegwyr iechyd erbyn hyn yn gweithio yn y byd academaidd, yn y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), ac yn y diwydiant fferyllol. Mae llawer llai o economegwyr addysg ac mae llawer llai o lenyddiaeth wedi’i chyhoeddi ar werth am arian neu gost-effeithiolrwydd ymyriadau neu bolisïau mewn addysg. Yng Nghymru, mae addysg yn brif faes cyllideb, yn ail i wariant ar ofal iechyd. Ac er bod llawer o’r gwariant hwnnw ar sail ddeddfwriaeth, ychydig iawn a wyddom am “werth am arian” i’r pwrs cyhoeddus o fuddsoddi mewn gwahanol feysydd cwrs bywyd cynnar (Edwards et al., 2016).

Ail ddewis ôl-bandemig sy’n ymwneud â llesdyfiant yn ddiweddarach mewn bywyd yw sut i flaenoriaethu ac ariannu mentrau i leihau rhestrau aros “gofal dewisol” neu “ofal wedi’i gynllunio” y GIG sydd wedi tyfu dros gyfnod y pandemig. Mae amseroedd aros ar gyfer ymyriadau arferol a hynod fuddiol a chost-effeithiol megis trin cataractau bellach gyn hired â thair blynedd. Gallem ddefnyddio tystiolaeth cost fesul Blwyddyn Fywyd a Addaswyd yn ôl Ansawdd (QALY) i helpu llunio strategaethau i flaenoriaethu rhai triniaethau. Gallem fod yn fwy penodol ynglŷn â blaenoriaethu pobl ar restrau aros am na allant yn hawdd barhau â’u cyfrifoldebau gofal, parhau i weithio, neu os yw poen neu broblemau iechyd meddwl yn gwneud bywyd yn fwy anodd iddynt. Astudiais y pwnc hwn ar gyfer fy PhD dros 30 mlynedd yn ôl (Edwards, 1999). Rwy'n falch fod gennyf fyfyrwyr ôl-radd sy’n ystyried y pwnc hwn unwaith eto yng ngoleuni’r pandemig. Gall mynediad at ofal dewisol neu ofal wedi’i gynllunio i drin cataract, gosod clun newydd neu gynnig cwnsela gynorthwyo pobl at eu cam nesaf mewn bywyd, a hyrwyddo annibyniaeth a gwytnwch. Mae’r ddadl llesdyfiant yn ystyried yn feirniadol sut y byddwn yn mynd i’r afael â thwf rhestrau aros ac yn ariannu hynny yn awr ein bod mewn cyfnod ôl-bandemig. Y rhestrau aros sy’n peri’r pryder mwyaf yn fy marn i yw’r rheiny ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, gyda thraean ohonynt yn gorfod aros am gyfnodau hir am gymorth (Cymdeithas Llywodraeth Leol, 2022). Mae’r angen i ymyriadau iechyd cyhoeddus ddangos arbedion ac adenillion o fuddsoddiad wedi peri syndod i’r rhai ohonom sy’n gweithio ym maes economeg iechyd y cyhoedd ers tro. Mae'n bryd edrych ar driniaethau arferol sy’n ddewisol ac wedi’u cynllunio a chymhwyso'r un ffon fesur o safbwynt cymdeithasol. Mae perygl y gall dadl godi ar sail rhagfarn oed, felly mae angen i’r pwyslais fod ar sicrhau budd i gleifion a’u gofalwyr anffurfiol, beth bynnag eu cyfnod bywyd.

Dyma’r cyntaf mewn cyfres o flogiau sy’n fframio’r gwaith ymchwil economeg iechyd yr wyf yn ei wneud gyda chydweithwyr yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) o safbwynt llesdyfiant. Yn y blog nesaf byddaf yn disgrifio astudiaeth dan arweiniad Coleg Prifysgol Llundain am grwpiau cymorth i bobl sy’n gofalu am aelodau teulu â mathau prin o ddementia. Nid yw llesdyfiant yn ymwneud â phlant a phobl ifanc yn unig. Yn yr achos hwn, mae'n ymwneud â rôl gofal yn ddiweddarach mewn bywyd.

Cyfeiriadau

Cassidy, C., & Mohr Lone, J. (2020). Thinking about childhood: Being and becoming in the world. Analytic Teaching and Philosophical Praxis, 40(1), 16-26.
Dolan, P. (2014). Happiness by design: change what you do, not how you think. Hudson Street Press.
Drummond, M. F., Sculpher, M. J., Claxton, K., Stoddart, G. L., & Torrance, G. W. (2015). Methods for the economic evaluation of health care programmes. Oxford university press.
Edwards, R.T. (1999). Points for pain: waiting list priority scoring systems. BMJ, 318(7181), 412-414. https://doi.org/10.1136/BMJ.318.7181.412.
Edwards, R. T., Bryning, L., & Lloyd-Williams, H. (2016). Transforming young lives across Wales: The economic argument for investing in early years. Bangor, UK: Bangor University. https://cheme.bangor.ac.uk/documents/transforming-young-lives/CHEME%20transforming%20Young%20Lives%20Full%20Report%20Eng%20WEB%202.pdf
Edwards, R.T., & McIntosh, E. (2019). Applied Health Economics for Public Health Practice and Research. Oxford: Oxford University Press.
Fischer, A. J., & Ghelardi, G. (2016). The precautionary principle, evidence-based medicine, and decision theory in public health evaluation. Frontiers in Public Health4, 107.
Hughes, K., Bellis, M.A., Hardcastle, K.A., Sethi, D., Butchart, A., Mikton, C., Jones, L., & Dunne, M.P. (2017). The effect of multiple adverse childhood experiences on health: a systematic review and meta-analysis. The Lancet Public Health, 2(8), pp.e356-e366.
Layard, R. (2020). Richard Layard on Happiness Economics. from https://www.socialsciencespace.com/2020/02/richard-layard-on-happiness-economics/
Local Government Association. (2022). Children and young people’s emotional wellbeing and mental health – facts and figures | Local Government Associationhttps://www.local.gov.uk/about/campaigns/bright-futures/bright-futures-camhs/child-and-adolescent-mental-health-and
Mitchell, P. M., Husbands, S., Byford, S., Kinghorn, P., Bailey, C., Peters, T. J., & Coast, J. (2021). Challenges in developing capability measures for children and young people for use in the economic evaluation of health and care interventions. Health Economics.
OED: Oxford English Dictionary. (n.d.). The definitive record of the English languagehttps://www.oed.com/oed2/00282689
Office for Students. (2022). Care experienced students and looked after children.  https://www.officeforstudents.org.uk/advice-and-guidance/promoting-equal-opportunities/effective-practice/care-experienced/
Rose, G.A., Khaw, K.T., & Marmot, M. (2008). Rose's strategy of preventive medicine: the complete original text. Oxford University Press.