Defnyddio’r llyfr “Small is Beautiful” fel yr egwyddor ar gyfer cydnabod a lliniaru heriau economaidd ac iechyd y boblogaeth yn sgil newid yn yr hinsawdd yma yng Nghymru

Gan Edwards R. T., Pisavadia, K. a Roberts, S.

Mae Cymru yn wlad fach a hardd. “Small is Beautiful” yw teitl llyfr a ysgrifennwyd gan yr economegydd Almaeneg, Ernst Schumacher, ac a gyhoeddwyd yn 1973. Schumacher oedd protégé’r economegydd Prydeinig, John Maynard Keynes. Cafodd Schumacher ei gaethiwo yn y Deyrnas Unedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a chafodd ei ryddhau gyda chymorth Keynes. Diolch i’w ffordd o feddwl blaengar, cyfrannodd Schumacher at adferiad economaidd Prydain ar ôl y rhyfel. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, mae ei lyfr “Small is Beautiful: A Study of Economics as if People Mattered” yn ddefnyddiol iawn wrth ein tywys drwy ein hymdrechion i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a’r heriau economaidd yr ydym yn eu hwynebu yma yng Nghymru ar ôl pandemig COVID-19, ar ôl Brexit, ac o ganlyniad i’r rhyfel yn Wcráin. Ynghyd â llyfr Schumacher, mae dau lyfr arall wedi llywio'r blog hwn: “Doughnut Economics: Seven Ways to Think like a 21st-Century Economist” gan Kate Raworth (2017) a’r cyhoeddiad newydd “Escape from Overshoot: Economics for a Planet in Peril” gan Peter Victor (2023). Fframwaith i ddatblygiad cynaliadwy yw economeg y doesen, sydd wedi'i siapio fel toesen neu wregys achub. Mae'n cyfuno'r cysyniad o ffiniau planedol â'r cysyniad cyflenwol o ffiniau cymdeithasol. Mae Raworth yn dadlau ei bod yn hollbwysig ein bod yn parhau i gynhyrchu digon o nwyddau a gwasanaethau angenrheidiol i ddiwallu anghenion hanfodol y boblogaeth heb ddisbyddu adnoddau naturiol hanfodol (Raworth, 2017). Mae “Escape from Overshoot” yn llyfr sy’n ehangu ar y cysyniad o “dwf economaidd” gan dorri ffiniau planedol ac ymestyn anghydraddoldeb ac anghyfiawnder (Victor, 2023).

Aeth Schumacher (1973) i’r afael â sawl thema yn ei lyfr. Yn gyntaf, peryglon trin yr amgylchedd naturiol fel ffynhonnell incwm yn hytrach na chyfalaf, na ddylid ei wastraffu; yn ail, rhesymau economaidd dros ryfel ac amodau heddwch, sy'n hynod berthnasol ar hyn o bryd o ystyried y gwrthdaro yn Wcráin a Phalestina; yn drydydd, diffyg gweledigaeth wrth ddewis ynni niwclear fel “ffynhonnell ynni glân” ond gyda baich anhysbys gwaredu gwastraff niwclear ar genedlaethau'r dyfodol; ac yn bedwerydd, datblygiad economaidd a rôl “technolegau canolradd” wrth gynhyrchu gwaith da ar gyfer poblogaeth. Mae'r agenda sero net a'r gydnabyddiaeth gynyddol o effeithiau lleol a byd-eang y newid yn yr hinsawdd yn golygu bod llawer o'r hyn a ysgrifennodd Schumacher dros hanner can mlynedd yn ôl yn flaenllaw iawn heddiw.

Yma, rydym wedi rhannu’r bygythiadau lleol uniongyrchol y mae hinsawdd sy’n newid yn eu peri i iechyd y boblogaeth yn dri grŵp:

  1. Y bygythiadau hynny sy’n effeithio ar ein hamgylchedd naturiol (newidiadau mewn ansawdd aer, tymereddau cynyddol, mwy o berygl o danau, llifogydd ac erydu arfordirol).
  2. Y bygythiadau hynny sy'n effeithio ar ein ffordd o fyw (sicrwydd bwyd a dŵr, gwarediadau gwastraff, ac amgylcheddau mewnol ein cartrefi).
  3. Y bygythiadau hynny sy'n effeithio arnom drwy newidiadau biolegol (mynychder clefydau heintus neu fectorau sy'n cario organebau megis mosgitos).

Daw’r bygythiadau hyn o ddadansoddiad diweddar gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig (2024). Mae angen i’r blaned ffynnu er mwyn i fodau dynol ffynnu. Mae hyn yn golygu bod angen priddoedd llawn maetholion arnom i dyfu digon o fwyd maethlon. Mae angen digon o ddŵr ffres arnom i adfywio ein hafonydd a dyfrhaenau ac aer glân i’w anadlu, sy’n golygu lleihau allyriadau’n sylweddol (Raworth, 2017). 

Fodd bynnag, y pryder sylfaenol ddylai fod y berthynas rhwng y newid yn yr hinsawdd ar lefel leol a graddiant economaidd-gymdeithasol afiechyd, anabledd a marwolaethau cynamserol. Mae cromlin Marmot, sydd wedi’i hen sefydlu, yn dangos y berthynas rhwng y gymdogaeth yr ydym yn byw ynddi a’n disgwyliad oes sydd wedi’i addasu yn ôl ansawdd (gweler Ffigur 1 isod; Marmot, 2020).

Ffigur 1: Disgwyliad oes ar adeg geni yn ôl dengraddau amddifadedd ardal a rhyw, Lloegr, 2016–18. Yn seiliedig ar ddata gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, 2020 (Marmot, 2020).

*Mae fersiwn hygyrch o'r graff hwn isod

graff yn dangos disgwyliad oes adeg geni yn ôl ardal degraddau amddifadedd a rhyw, Lloegr, 2016–18

Dengraddau amddifadedd o'r mwyaf i'r lleiaf difreintiedig

 

Disgwyliad oes dynion

Disgwyliad oes merched

1

73.9

78.6

2

76

80.5

3

77

81.5

4

79

82.5

5

79.9

84

6

80.3

84.5

7

81

84.7

8

81.5

84.9

9

82

85.3

10

83.4

86.3

Cymru yw un o ranbarthau tlotaf y Deyrnas Unedig. Ar lefel leol, mae gan Gymru rai o’r cymunedau trefol a gwledig tlotaf yn y Deyrnas Unedig. Mae un o bob tri phlentyn sy’n cael eu magu yng Nghymru yn byw mewn tlodi (Roberts et al., 2023). Mae natur heneiddiol poblogaeth Cymru, yn sgil, yn rhannol, fewnfudwyr sydd wedi ymddeol, yn golygu nad oes digon o’r boblogaeth o oedran gweithio i gynnal y patrwm demograffig hwn.

Canolbwyntiodd Schumacher (1973) ar ansawdd y gwaith sydd gan bobl mewn economi. Ysgrifennodd yn bennaf am wledydd sy’n datblygu, ond mae ei syniadau'n berthnasol i wledydd datblygedig fel y Deyrnas Unedig. Dadleuodd dros waith lleol o ansawdd da yn hytrach na gwaith neo-drefedigaethol o ansawdd gwael. Mae’n anodd gweld cyflogwyr uwchgwmnïau byd-eang, sy’n ddiweddar wedi ehangu eu busnesau yng Nghymru ac sy’n cynnig contractau amrywiol neu gontractau dim oriau, fel y math o gyflogwyr a ragwelodd Schumacher. Mae cyflogwyr uwchgwmnïau’n dilyn yr un taflwybr â’r Chwyldro Diwydiannol, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar gyfalaf a llafur. Mae angen i syniadaeth economaidd roi mwy o sylw i’r straen ecolegol y mae cwmnïau byd-eang mawr yn ei roi ar y blaned, megis newid yn yr hinsawdd, datgoedwigo a diraddiad pridd (Raworth, 2017).

Eto, yng nghyd-destun gwledydd sy’n datblygu, roedd Schumacher (1973) yn ystyried datblygiad economaidd a llesiant o “safbwynt pentref”, hynny yw, trwy ddull rhanbarthol. Tynnodd Schumacher sylw at y bwlch rhwng anghenion isadeiledd cyflogaeth lleoliadau trefol a threfi a phentrefi. Mae safbwynt pentrefol Schumacher yn tynnu ar ddau ffactor rhyng-gysylltiedig: “digonolrwydd” a chynaliadwyedd. Yn groes i dwf parhaus cyfalafol, daw'r lles mwyaf o gael digon i bawb. Daw’r safbwynt hwn o’r syniad nad yw mwy bob amser yn well, ac o hynny, mae athroniaeth “Hardd yw’r Pethau Bychain” yn dod i’r amlwg.  Yn fwy diweddar, mae athroniaeth y “ddinas 15 munud” yn tynnu ar y dull hwn o safbwynt pentrefol; cysyniad cynllunio trefol a fathwyd gan Carlos Moreno yn 2016 (Moreno et al., 2021). Mae’n egwyddor ysbrydoledig, er nad yw bob amser yn bosibl yng nghefn gwlad Cymru. Er bod peth dadlau yn y cyfryngau, mae’r cysyniad hwn o ddiwallu ein hanghenion dyddiol yn arbennig o berthnasol i Gymru, a gallai ddatrys problem poblogaeth sy’n heneiddio drwy ddal gafael ar ein cenhedlaeth iau drwy gynnig cyfleoedd cyflogaeth lleol da. Mae twf mentrau cymdeithasol yng Nghymru yn un ffactor yn y newid hwn drwy roi adnoddau a chyfleoedd gwaith yn ôl yn ein cymunedau, gan ysgogi math gwahanol o ffyniant gyda chynaliadwyedd wrth ei wraidd. Wrth gwrs, mae deddfwriaeth berthnasol yn ffactor allweddol i hyn, a bod y pwerau datganoli a roddwyd i Gymru yn 2011 yn cynnwys pwerau deddfu.

Mae Cymru wedi pasio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (gweler Ffigur 2 isod), sy’n ei gwneud hi’n angenrheidiol i bob polisi a chynllun, yn genedlaethol ac yn lleol, ystyried effeithiau’r camau a gymerir, nawr ar genedlaethau’r dyfodol.  

Ffigur 2. Ffeithlun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

siart cylch yn manylu ar saith nod deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Y rhain yw: Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang; Cymru lewyrchus; Cymru gydnerth; Cymru iachach; Cymru fwy cyfartal; Cymru o gymunedau cydlynus; Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

Mae'r ffeithlun Olwyn Llesiant a Lles (gweler Ffigur 3 isod; Edwards, 2022), a ddatblygwyd yma yng Nghymru, yn amlygu’r angen am ddull cwrs bywyd o atal afiechydon y gellir eu hosgoi, anabledd a marwolaethau cynamserol. Mae ei gylchoedd yn amlygu pa mor agored yw pob cam o gwrs bywyd i ffactorau sydd mewn perygl oherwydd y newid yn yr hinsawdd. Mae'r cylch mewnol coch yn tynnu sylw at ddiogelwch bwyd a dŵr, addysg, gwaith da a chymuned. Mae'r cylch allanol glas yn tynnu sylw at y newid yn yr hinsawdd a thrychinebau naturiol, sydd weithiau'n cael eu hysgogi neu eu dylanwadu gan y newid yn yr hinsawdd, rhyfel a gyfnodau o bandemig.

Ffigur 3. Ffeithlun Olwyn Llesiant a Lles (Edwards, 2022)

Mae'r ffeithlun hwn yn adlewyrchu cysyniad sylfaenol "olwyn bywyd". Mae'r cylch consentrig cyntaf yn goch ac yn adlewyrchu ffactorau personol sy'n pennu neu'n cael effaith trwy cwrs bywyd ar lesiant a lles. Y rhain yw: gyrfaoedd a chyflogaeth; pwrpas a chyfraniad; iechyd meddwl; iechyd corfforol; perthynas a chysylltiad cymdeithasol; diogelwch bwyd, dŵr a ynni, addysg a thwf; hunaniaeth bersonol; sefydlogrwydd ariannol, ac amgylchedd y cartref a’r gwaith. Mae'r ail gylch consentrig yn wyrdd ac yn adlewyrchu ffactorau lleol sy'n pennu neu'n cael effaith ar lesiant a lles trwy’r cwrs bywyd. Y rhain yw: polisi llywodraeth genedlaethol a lleol; mynediad at dai a thrafnidiaeth; mynediad at addysg a chyflogaeth; Y gymdogaeth, yr amgylchedd adeiledig a naturiol; mynediad at leoedd gwyrdd a glas; mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol, llythrennedd iechyd a chyfiawnder. Mae'r trydydd cylch consentrig yn las ac yn adlewyrchu ffactorau cenedlaethol a byd-eang sy'n pennu neu'n cael effaith ar lesiant a lles trwy gwrs bywyd. Y rhain yw: newid amgylcheddol a hinsoddol; normau cymdeithasol a diwylliannol; technoleg; globaleiddio; amodau macroeconomaidd; amodau geo-wleidyddol, a rhyfel, terfysgaeth, newyn, pandemig a thrychinebau naturiol.

Mae Ffigur 4 isod yn arbrofol. Yma rydym yn ceisio mapio bygythiadau sy'n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd i iechyd ar y diffiniadau traddodiadol sylfaenol, eilaidd a thrydyddol o atal.

Ffigur 4. Triongl Ataliol o Effeithiau’r Hinsawdd Newidiol ar Iechyd a Lles

Triongl Atal o Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd ar Iechyd a Lles. Mae'r rhan isaf yn manylu ar y prif risgiau, newidiadau amgylcheddol gan gynnwys ansawdd aer, tymheredd cynyddol, risgiau o danau gwyllt a llifogydd ac erydu arfordirol. Yr ail segment yw risgiau eilaidd newidiadau biolegol gan gynnwys alergeddau, clefydau heintus ac organebau sy'n cario fector. Brig y triongl yw risgiau trydyddol newidiadau ffordd o fyw gan gynnwys diogelwch bwyd a dŵr, gwaredu gwastraff ac amgylchedd mewnol y cartref.

Yr angen am ddulliau cost-effeithiol o liniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar iechyd
Mae disgyblaeth economeg iechyd, sy’n astudio sut yr ydym yn draddodiadol wedi defnyddio adnoddau prin i ddiwallu ein hanghenion gofal iechyd, yn trawsnewid yn gyflym i gofleidio’r ffordd yr ydym yn defnyddio adnoddau prin trwy ymyriadau iechyd cyhoeddus i atal afiechydon y gellir eu hosgoi, anabledd a marwolaethau cynamserol. Mae bellach yn un o’r disgyblaethau academaidd a all helpu i gynhyrchu tystiolaeth o ffyrdd cost-effeithiol o liniaru risgiau y gellir eu hosgoi i iechyd y boblogaeth yn sgil newid yn yr hinsawdd. Yma yng Nghymru, mae angen i ni ddeall bod yr heriau byd-eang o ran mynd i’r afael â’r risgiau sy’n codi yn sgil y newid yn yr hinsawdd hefyd yn debygol o effeithio ar gymunedau trefol a gwledig ar lefel leol. 

Mae Ffigur 5 isod yn rhestru ystod o offer methodolegol y gellir eu defnyddio i werthuso costau a buddion cymharol ymyriadau i liniaru effeithiau negyddol posibl y newid yn yr hinsawdd, a ffactorau sy'n effeithio ar iechyd byd-eang a ffyrdd o flaenoriaethu ar draws yr ymyriadau posibl hyn.

Ffigur 5. Economeg iechyd fel cyfrannwr at ymchwil drawsddisgyblaethol ym meysydd iechyd, lles, cynaliadwyedd a’r newid yn yr hinsawdd

Economeg iechyd fel cyfrannwr at ymchwil trawsddisgyblaethol ym meysydd iechyd, lles, cynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd

Un Iechyd / Economeg Un Iechyd

Dull sy’n galw am “ymdrechion cydweithredol disgyblaethau lluosog sy’n gweithio’n lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang, i sicrhau’r iechyd gorau posibl i bobl, anifeiliaid a’n hamgylchedd…. Mae’r dull yn ysgogi sectorau, disgyblaethau a chymunedau lluosog ar lefelau amrywiol o gymdeithas i gydweithio i feithrin llesiant a mynd i’r afael â bygythiadau i iechyd ac ecosystemau, wrth fynd i’r afael â’r angen cyfunol am ddŵr glân, ynni ac aer, bwyd diogel a maethlon, gan weithredu ar newid hinsawdd a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy”.

 

Dulliau dadansoddi economeg iechyd (dim trefn benodol):

  • Modelu economaidd
  • Dadansoddiad cost-effeithiolrwydd
  • Dadansoddiad cost-ddefnyddioldeb
  • Dadansoddiad cost a budd
  • Dadansoddiad cost-canlyniad
  • Dadansoddiad adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiad (SROI).
  • Prisiad lles
  • Cyllidebu rhaglenni a dadansoddiad ffiniol
  • Dadansoddiad penderfyniad meini prawf lluosog
  • Dadansoddiad o effaith cyllidebu
  • Arbrofion dewis arwahanol
  • Astudiaethau cost salwch

Gall y dulliau hyn wneud defnydd o:

  1. Dulliau meintiol ac ansoddol
  2. Dadansoddiad/synthesis realistig
  3. Adolygiadau cwmpasu, adolygiadau cyflym, adolygiadau systematig
  4. Dulliau ymgynghori Delphi
  5. Arolygon ar raddfa fawr

 

Canolfan Ymchwil Llefydd Newid Hinsawdd (PloCC)

Mae Llefydd Newid Hinsawdd yn fforwm ymchwil cydweithredol sy'n uno safbwyntiau o nifer o ddisgyblaethau ym Mhrifysgol Bangor. Mae hyn yn caniatáu i academyddion, ymchwilwyr a myfyrwyr PhD roi sylw ar y cyd i syniadau’n ymwneud ag ymdeimlad o le mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd. Mae'r syniad o 'le' wedi'i gydnabod ers amser maith mewn daearyddiaeth ddynol ac mewn meysydd eraill fel cysyniad lleoliadol y mae bodau dynol yn teimlo ymlyniad wrtho mewn rhyw ffordd (e.e., yn emosiynol, yn ddiwylliannol neu trwy ymdeimlad o gyfrifoldeb a pherchnogaeth). Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn fyd-eang ond mae'n cael ei deimlo'n lleol, yn y lleoedd rydym yn byw ac yn teimlo cysylltiad â nhw.

 

 

 

Yn y maes iechyd y cyhoedd a gofal iechyd ataliol, mae angen i gleifion a systemau gofal iechyd “gyd-gynhyrchu” gwell iechyd ac atal problemau iechyd y gellir eu hosgoi. Mae hyn hefyd yn wir o ran y risgiau sy’n codi yn sgil y newid yn yr hinsawdd. O ran iechyd y boblogaeth, mae'n hollbwysig bod y llywodraeth, cymunedau lleol ac unigolion yn cyd-gynhyrchu ffyrdd o atal afiechydon y gellir eu hosgoi. Gall Ffigur 6 isod fod yn ddefnyddiol wrth ein hatgoffa o’r llu o randdeiliaid a’r safbwyntiau amrywiol ar draws llunwyr polisi, darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, llywodraeth leol, cymunedau ac unigolion, y bydd pob un ohonynt yn wynebu effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar iechyd. Maent i gyd yn asiantau posibl wrth ddod o hyd i ffyrdd cost-effeithiol o liniaru effeithiau iechyd o’r fath yma yng Nghymru yn sgil y newid yn yr hinsawdd.

Ffigur 6. Nodweddion cydgynhyrchu o drafodaethau mewn gweithdai (Howarth et al., 2023)

ithredol adeiladol; Canolbwyntio ar atebion; lle i actorion lluosog rannu arbenigedd a herio ei gilydd; gwneud penderfyniadau cynhwysol; cyd-ddylunio dull cyfannol a systemau o’r cychwyn cyntaf; cyd-ddylunio gwybodaeth hinsawdd

I gloi, mae Cymru’n cynnig microcosm fel cenedl fach a hardd lle gallwn ymgymryd ag ymchwil sy’n berthnasol i bolisi, a all fod yn fwy cyffredinol o lawer.

 

Cyfeiriadau

Edwards, R. T. (2022). Well-being and well-becoming through the life-course in public health economics research and policy: A new infographic. Frontiers in Public Health, 10, 1035260. https://doi.org/10.3389/fpubh.2022.1035260

Howarth, C., Lane, M., Morse-Jones, S., Brooks, K., a Viner, D. (2022). The ‘co’ in co-production of climate action: challenging boundaries within and between science, policy and practice. Global Environmental Change, 72, 102445. https://doi.org/10.1016/j.gloenvcha.2021.102445

Marmot, M. (2020). Health equity in England: the Marmot review 10 years on. BMJ, 368. https://doi.org/10.1136/bmj.m693

Moreno, C., Allam, Z., Chabaud, D., Gall, C., a Pratlong, F. (2021). Introducing the “15-Minute City”: Sustainability, resilience and place identity in future post-pandemic cities. Smart Cities, 4(1), 93-111. https://doi.org/10.3390/smartcities4010006

Raworth, K. (2017). Doughnut economics. Chelsea Green Publishing.

Roberts, M., Morgan, L., a Petchey, L. (2023, Medi). Children and the cost of living crisis in Wales: How children’s health and well-being are impacted and areas for action. Public Health Wales. https://phwwhocc.co.uk/wp-content/uploads/2023/09/PHW-Children-and-cost-of-living-report-ENG.pdf

Schumacher, E. F. (1973). Small is beautiful: A study of economics as if people mattered. Little, Brown Book Group.

UK Health Security Agency. (2024, 15 Ionawr). Health effects of climate change in the UK: state of the evidence 2023.
https://assets.publishing.service.gov.uk/media/659ff6a93308d200131fbe78/HECC-report-2023-overview.pdf

Victor, P. A. (2023). Escape from overshoot: Economics for a planet in peril. New Society Publishers.