Arian i ddatblygu mwy o ymchwilwyr ym maes dementia

Dr Catherine Macleod and  Dr Carys JonesDr Catherine Macleod a Dr Carys Jones

Mae oddeutu 45,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod yr afiechyd yn costio £1.4 biliwn y flwyddyn.  Y ganran uchaf o’r gost yw’r gofal di-dâl a ddarperir gan deuluoedd a chyfeillion. Nid yw gwasanaethau dementia ar gael i bawb yn yr un modd, ac mae cael mynediad at y gwasanaethau drwy sectorau iechyd a gofal yn anodd i rai. Mae cludiant cyhoeddus yn wael a’r risg y bydd gofalwyr yn teimlo’n ynysig a heb gefnogaeth hefyd yn heriau arbennig mewn ardaloedd gwledig.

Mae ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor wedi cael dros hanner miliwn o bunnoedd mewn cyllid i gynnal dwy Gymrodoriaeth Ymchwil mewn Ymchwil ym maes Dementia gan Lywodraeth Cymru. Bwriad y Cymrodoriaethau hyn, a ariennir drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yw cynyddu’r gallu mewn ymchwil gofal ac iechyd drwy gefnogi unigolion i ddod yn ymchwilwyr annibynnol a chynnal projectau ymchwil o ansawdd uchel.

Dyfarnwyd Cymrawd Gofal Iechyd i Dr Catherine MacLeod o Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru i ymchwilio i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol pobl sy’n byw gyda dementia neu amhariad gwybyddol, a’u gofalwyr. Bydd y gwaith yn edrych ar sut y mae pobl yn cael mynediad at y gwasanaethau ac yn eu defnyddio ar hyn o bryd, pa gefnogaeth sydd ar goll, a’u profiad o eithrio cymdeithasol.

Meddai Catherine MacLeod:

“Rydym yn awyddus i sicrhau bod pobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd yn derbyn y gofal a’r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir. Rwy’n gobeithio y bydd fy ymchwil yn gwneud gwahaniaeth i’r gefnogaeth y mae’r bobl hyn yn ei derbyn.”

Dyfarnwyd Cymrawd Gofal Cymdeithasol i Dr Carys Jones o Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) i ymchwilio i werth cymdeithasol gwasanaethau gan y sector trydyddol ar gyfer gofalwyr teulu pobl sy’n byw gyda dementia. Mae gan y canfyddiadau hyn y potensial i wella darpariaeth gwasanaethau drwy archwilio gwerth am arian cynlluniau trydydd sector.

Meddai Dr Carys Jones:

“Mae gofalwyr teuluol yn darparu cefnogaeth hanfodol i bobl sy’n byw gyda dementia, ond mae eu hanghenion nhw’n cael eu hesgeuluso. Bydd yr ymchwil o bwys hon yn edrych ar wasanaethau sy’n cefnogi teuluoedd gan ddarparu cefnogaeth emosiynol, cyngor ymarferol am ofalu, a chyngor ar gynnal iechyd a lles y gofalwyr.”

Bydd y ddwy Gymrodoriaeth yn ceisio adnabod yr hyn sy’n gweithio i bwy wrth ddarparu’r gwasanaethau hyn, gan dynnu sylw at ymarfer da, ac archwilio ffactorau sy’n ei gwneud yn haws i  bobl gael mynediad at y gwasanaethau hyn a’u defnyddio. Bydd y bobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd wrth galon y gwaith, ac yn weithredol wrth siapio datblygiad yr ymchwil, a chydweithio gyda’r ymchwilwyr er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl sy’n byw gyda dementia, a’u gofalwyr, i’w clywed.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2017