Cyn-fyfyriwr entrepreneuraidd yn cyrraedd rownd cynderfynol rhanbarthol Santander

Dr Ned HartfielDr Ned HartfielMae cyn-fyfyriwr doethuriaeth ac entrepreneur o Brifysgol Bangor wedi cyrraedd rownd gynderfynol ranbarthol Gwobrau Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander 2017.

Yn dilyn ei lwyddiant yng ngham cyntaf y gystadleuaeth yn gynharach eleni, bydd rhaid i Dr Ned Hartfiel argyhoeddi’r beirniaid am rinweddau ei gwmni Healthy Back. Bydd yn cystadlu yn erbyn naw myfyriwr arall sy'n gobeithio ennill rownd cynderfynol rhanbarthol y Gogledd ac Iwerddon.

Mae ei gwmni eisoes yn cynnig rhaglen sydd yn mynd i’r afael â phoen cefn ac absenoldeb o’r gwaith o ganlyniad i boen cefn. Mae Ned wedi cwblhau doethuriaeth mewn Economeg Iechyd, a bellach mae’n denu cleientiaid i’w raglen, sy’n seiliedig ar ioga, ac sydd eisoes wedi ei darparu ar gyfer staff Cyngor Gwynedd a Chyngor Conwy, Heddlu Glannau Merswy, Cyngor Conwy ac Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain. Dangosodd ei ddoethuriaeth bod staff a oedd yn dilyn ei raglen ioga am dros chwe mis wedi bod yn absennol o’r gwaith yn llai aml oherwydd poen cefn o’u cymharu â grŵp rheolydd.

Gyda chymorth busnes drwy B-Fentrus a Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol, mae Ned yn awr mewn trafodaethau gyda Heddlu Gogledd Cymru, Santander yn Lerpwl, Heddlu Northumbria a Siemens.

Mae Ned wrth ei fodd gyda'r newyddion am gyrraedd y rownd gynderfynol ranbarthol, meddai: "Mae ein rhaglen wedi ei datblygu gan feddygon teulu, ffisiotherapyddion, therapyddion ioga ac osteopathiaid. Mae'n ddiogel, yn effeithiol ac yn gost-effeithiol i sefydliadau a effeithir gan absenoldebau salwch oherwydd cyflyrau cyhyrysgerbydol. Mae'n rhaglen dan arweiniad hyfforddwr yn y gweithle, sydd wedi ei ategu gan adnoddau ar-lein ar gyfer ymarferion yn y cartref. Hyd yma, mae 90% o'r staff sydd wedi cwblhau ein rhaglen chwe wythnos wedi adrodd yn ôl bod ganddynt lai o boen cefn a'u bod yn teimlo’n well. Gyda diolch i Brifysgolion Santander a chyda chymorth parhaus Tîm Byddwch Fentrus Prifysgol Bangor, mae’r cwmni yn mynd o nerth i nerth, ac rydym yn gobeithio helpu mwy o weithwyr i wella eu lles."

Os bydd yn llwyddo yn y rownd gynderfynol ranbarthol, bydd Ned yn mynd ymlaen i rownd derfynol y DU ym mis Hydref, ac yn cystadlu i ennill pecyn o gyllid gwerth £25k, sesiynau mentora a chefnogaeth, cyfle unigryw i gymryd rhan mewn wythnos sbarduno a chael interniaeth wedi ei hariannu’n llawn gan Brifysgolion Santander.

Straeon Perthnasol:
Tri i gystadlu ar ran y Brifysgol mewn cystadleuaeth entrepreneuriaeth

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2017