Pedwar o Fangor yn cael eu penodi i gorff Cenedlaethol newydd

Mae pedwar academydd blaenllaw ym maes iechyd o Brifysgol Bangor wedi’u penodi’n aelodau o Gyfadran Uwch y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR). Cyhoeddwyd y penodiadau gan y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, yn ddiweddar.

Dyma aelodau’r Gyfadran sy’n dod o Brifysgol Bangor: yr Athro Linda Clare o’r Ysgol Seicoleg, sy’n arbenigwraig flaenllaw ym maes niwroseicoleg cof ac adferiad gwybyddol mewn anhwylderau cof; yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, economegydd iechyd sy’n cyd-arwain y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau o fewn y Brifysgol; yr Athro Clare Wilkinson, sy’n arwain Canolfan Gogledd Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol, sy’n canolbwyntio ar ymchwil gwyddorau iechyd ym maes anhwylderau cyhyrysgerbydol a chanser mewn perthynas â gofal sylfaenol; a’r Athro Bob Woods, arbenigwr blaenllaw ym maes gofal pobol â dementia, o fewn Canolfan y Brifysgol ar gyfer Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru.

“Mae’r penodiadau’n adlewyrchu’r cyfraniad arwyddocaol at ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol a wneir ar draws amrediad eang o ddisgyblaethau yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at gyfraniad gwerthfawr gan ein hymchwilwyr iechyd blaenllaw, wrth iddynt rannu’r arfer gorau a chydweithio ag eraill ar draws Cymru i gefnogi a hybu ymchwil ar y cyd sy’n cyfrannu at wella gofal iechyd a gofal cymdeithasol er budd y gymuned ehangach,” meddai’r Athro David Shepherd, Dirprwy i’r Is-Ganghellor (Ymchwil a Menter).

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR) yn gorff o eiddo Llywodraeth Cymru sy’n datblygu, gan ymgynghori â phartneriaid, strategaeth a pholisi ar gyfer ymchwil yn y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Nod y sefydliad yw cyllido ymchwil heddiw a fydd yn llywio gofal yfory ac yn gwella iechyd a chyfoeth pobl Cymru.

Lansiwyd Cyfadran NISCHR yn swyddogol yn Ebrill 2013 yn ystod Cynhadledd NISCHR yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Mae’r Gyfadran wedi ei chreu i ehangu cydweithio, i ddarparu arweiniad ac i roi ymdeimlad o gymuned i ymchwilwyr gofal iechyd a cymdeithasol a fydd yn rhoi mwy o hwb i ddiwylliant ymchwil ffyniannus yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2013