Project cerddoriaeth Codi’r To yn dod â harmoni i’r cartref a gwerth cymdeithasol i ysgolion a chymunedau

Rhai o gerddorion ifanc Codi'r To.Rhai o gerddorion ifanc Codi'r To.Mae arfarniad economeg o werth Sistema Cymru - Codi’r To, menter gerddorol mewn dwy ysgol yng Ngwynedd, yn datgelu bod gwerth y project  yn ymestyn ymhell tu hwnt chwarae offeryn cerddorol, ac wedi  arwain at well harmoni i nifer o’r cartrefi  a fu’n  cymryd rhan.

Rhoddodd y dadansoddiad Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau (SROI)  a gynhaliwyd gan Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau Prifysgol Bangor (CHEME),  gwerthoedd ariannol yn erbyn pob agwedd ar fuddiannau gweithgareddau Codi’r To gyda disgyblion mewn dwy Ysgol yng Ngwynedd a chanfod bod bob £1  a wariwyd yn creu gwerth cymdeithasol cyfwerth a £6.69.

O’r 50 o rieni a gyfwelwyd, roedd 92% ohonynt yn cytuno  bod hyder eu plentyn wedi cynyddu a bod ymddygiad eu plentyn y tu allan i’r ysgol wedi gwella. Roedd yr amcangyfrif adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiadau hefyd wedi datgelu bod y buddiannau yn llawer mwy eang, gyda theuluoedd yn elwa o berthynas gwell gyda’u plentyn, gyda’r ysgol a chyda’r gymuned.

Mae Codi’r To yn dilyn trefn project El Sistema  a ddatblygwyd yn Venezuela ac mewn sawl gwald arall led led y byd.  Mae’r gweithgareddau cerddorol i blant yn  mynd i’r afael ar  anfanteision a chyraeddiadau addysgol mewn ardaloedd  amddifadedd lluosog, er budd y plant, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae elusen Codi’r To  yn cynnal sesiynau cGweithgareddau Codi To yn y dosbarthGweithgareddau Codi To yn y dosbartherddorol mewn dwy  ardal ddifreintiedig yng Ngwynedd, yn Ysgol Glan Cegin, Bangor ac Ysgol Maesincla, Caernarfon.

Fel yr esbonia’r Athro Rhiannon Tudor Edwards, un o awduron yr adroddiad:

“Mae Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau (SROI)  yn ein galluogi i fesur amrediad eang o elfennau  anniriaethol fel effaith cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y rhaglen, drwy briodoli gwerthoedd i’r elfennau hyn.  Roedd hefyd yn ein galluogi i roi ystyriaeth nid yn unig i’r disgyblion ei hunain, ond hefyd i’r gwerth i’w hysgolion, eu cartrefi a’r gymuned ehangach.”

Meddai cyd-awdur yr adroddiad, Eira Winrow:

“Mae Codi’r To  yn creu gwerth cymdeithasol sylweddol o rhwng £4.59 a £8.95 am bob punt a fuddsoddir.  Fel y mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn wynebu toriadau pellach i’w gyllidebau,  mae  parhau’r ddarpariaeth cerddoriaeth mewn ysgolion yn dod yn fwy o her.  Dyma’r dadansoddiad  SROI gyntaf yng Nghymru sy’n dangos effaith positif cerddoriaeth mewn ysgolion a’r gwerth  mwy eang sy’n cael ei greu drwy raglenni fel Codi’r To.”

Rhai o berfformwyr iau Codi'r To.Rhai o berfformwyr iau Codi'r To.Meddai Carys Bowen, Cydlynydd Codi’r To:

‘’ Rydym wrth ein boddau gyda chanlyniadau’r adroddiad gwerthuso sydd yn  ail-gadarnhau’r hyn yr ydym wedi credu ers dechrau project Codi’r To, sef bod sawl budd i addysg cerddoriaeth, a  gall y rhain fod yn gymorth wrth drawsffurfio bywydau, gyda chanlyniadau positif i ddisgyblion, ysgolion a’r gymuned yn fwy eang.’’

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2018