Hyrwyddo Gweithgarwch, Annibyniaeth a Sefydlogrwydd mewn Dementia Cynnar (PrAISED)

Cyllidwr

Grant Rhaglen Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd ar gyfer Ymchwil Gymhwysol

Ymchwilwyr/Sefydliadau Cydweithredol:

Yr Athro Rowan Harwood, Prifysgol Nottingham

Crynodeb o’r project

Nodau

Cynnal annibyniaeth, lles ac ansawdd bywyd pobl â dementia cynnar, trwy hyrwyddo gweithgarwch a lleihau achosion o syrthio a'u canlyniadau andwyol.

Amcanion

  • Datblygu ymyriad sydd a fwriedir i hybu gweithgarwch ac annibyniaeth a lleihau achosion o syrthio, ymysg pobl â dementia cynnar neu nam gwybyddol ysgafn
  • Astudio ffyrdd o hybu'r nifer sy'n manteisio ar yr ymyriad ac ymlyniad iddo
  • Cynnal treial dichonoldeb i brofi’r ymyriad yn ymarferol, a pharatoi ar gyfer hap-dreial rheoledig diffiniol ar draws nifer o ganolfannau
  • Profi effeithiolrwydd yr ymyriad mewn hap-dreial rheoledig ar draws nifer o safleoedd.
  • Cynnal gwerthusiad o'r broses i astudio'r modd y cyflwynir ymyriadau, y cyd-destun, yr hwyluswyr a'r rhwystrau
  • Paratoi i gynnal gwerthusiad economeg iechyd
  • Paratoi ar gyfer lledaenu a gweithredu canfyddiadau'r rhaglen

Cyhoeddiadau

Hartfiel, N., Gladman, J., Harwood, R., & Tudor Edwards, R. (2022). Social Return on Investment of Home Exercise and Community Referral for People With Early Dementia. Gerontology & geriatric medicine8, 23337214221106839. https://doi.org/10.1177/23337214221106839