Prosiect Ymchwil
Asesiad economaidd ochr yn ochr â phrofion clinigol
Project Sir y Fflint:
Dadansoddiad Cost-Effeithiol o Ymyrraeth Aml-Asiantaethol, Cymunedol ar gyfer
Problemau Seicolegol mewn Plant Ifainc Oed Ysgol
Whendy: Endosgopi Mynediad
Agored o Gleifion h.pylori positif â Dyspepsia mewn Meddygaeth Deuluol - A
yw'n angenrheidiol?
Project
Sir y Fflint: Dadansoddiad Cost-Effeithiol o Ymyrraeth Aml-Asiantaethol, Cymunedol
ar gyfer Problemau Seicolegol mewn Plant Ifainc Oed Ysgol
Prif ymchwilydd economeg iechyd: Mariamma Thalanany
Ymgeiswyr: RT Edwards, C Wilkinson,
P Appleton
Grant: £49,000
Corff Cyllido: WORD
Cyfnod y project: Ionawr 1999 - Chwefror 2001
Ymyrraeth aml-sector, yn seiliedig ar boblogaeth i wella iechyd meddwl plant.
Mae'r asesiad economaidd hwn yn astudiaeth dwy flynedd yn gysylltiedig â phrawf
pragmatig tair blynedd, sydd yn awr yn ei thrydedd flwyddyn a'r olaf. Gyda'i
gilydd, mae'r astudiaethau hyn wedi cymharu effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd
ymyrraeth sy'n cynnwys cydweithio rhwng GIG, gwasanaethau cymdeithasol, awdurdodau
addysg lleol a'r sector gwirfoddol. Mae cyfansoddyn asesu economaidd yr astudiaeth
wedi cynnwys cyfranu rhestr o'r gwasanaethau a ddefnyddir gan rieni, yn gofyn
am yr amrywiaeth o wasanaethau iechyd, cymdeithasol ac addysgol mae teuluoedd
yn eu defnyddio. Mae hefyd wedi cynnwys ymarfer costio cymhleth yn rhychwantu'r
sectorau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg a gwirfoddol. Bydd y prif
ymchwilydd, Mrs Mariamma Thalanany yn gadael yn Nhachwedd 2000 i ymuno â'i
theulu yn Essex i gymryd cymrodoriaeth ymchwil ym Mhrifysgol East Anglia.
Dymunwn yn dda iddi.
Project
Whendy: Endosgopi Mynediad Agored o Gleifion h.pylori positif â Dyspepsia
mewn Meddygaeth Deuluol - A yw'n angenrheidiol?
Prif ymchwilydd economeg iechyd: Maggie Hendry (CMPC Wrecsam)
Ymgeiswyr: C Wilkinson, Matthew Thalanany (cyd-ymgeisydd RT
Edwards)
Grant: £113,000
Corff Cyllido: WORD
Cyfnod y project: Ionawr 1998 - Mehefin 2001
Mae'r prawf hwn wedi profi'n broblemus iawn o ganlyniad i gyfradd recriwtio
annigonol. Fodd bynnag, mae'r grwp wedi ymuno â grwp cydweithiol profion dyspepsia
Prydain ac yn gobeithio cyfrannu at feta-ddadansoddiad. Mae'r tîm Whendy wedi
bod yn llwyddiannus mewn cael rhagor o gyllid i alluogi casglu gwybodaeth
am gleifion sy'n defnyddio gwasanaethau yn y 12 mis yn dilyn triniaeth er
mwyn cyfrannu at ddata economeg iechyd i feta-ddadansoddiad cynlluniedig y
DU. Gwnaed dadansoddiad sylfaen o statws economaidd-gymdeithasol y rhai dan
sylw a defnydd o baratoadau dros-y-cownter.