Newyddion: Tachwedd 2013

Llwyddiant dwbl yng nghynhadledd yr "International Society for Pharmacoeconomics and Outcomes Research"

⁠Enillodd Emily Holmes o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor y wobr am y cyflwyniad gorau ac enillodd Dr Paul Parham, o'r un ganolfan, y wobr am y cyflwyniad gorau gan ymchwilydd newydd yn 16eg gynhadledd Ewropeaidd flynyddol yr " International Society for Pharmacoeconomics and Outcomes Research " (ISPOR) yn Nulyn ar 6 Tachwedd.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2013