Holl Newyddion A–Y

Archwilio economeg technoleg arbed golwg

Mae dros ddwy filiwn o bobl yn y Deyrnas Unedig yn colli eu golwg. Bydd hyn yn dyblu i bron bedair miliwn erbyn 2050 wrth i'r boblogaeth heneiddio ac i achosion sylfaenol megis gordewdra a diabetes gynyddu. Mae hyn yn rhoi pwysau enfawr ar wasanaethau gofal llygad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae dau ymchwilydd o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Moddion, Seow Tien Yeo a'r Athro Rhiannon Tudor Edwards, yn gyd-ymchwilwyr ar yr astudiaeth tomograffeg cydlynedd optegol a gyllidir gan raglen Dyfeisio ar gyfer Arloesi NIHR-i4i (£1.3 miliwn).

Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2017

Arian i ddatblygu mwy o ymchwilwyr ym maes dementia

Mae oddeutu 45,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod yr afiechyd yn costio £1.4 biliwn y flwyddyn. Y ganran uchaf o’r gost yw’r gofal di-dâl a ddarperir gan deuluoedd a chyfeillion. Nid yw gwasanaethau dementia ar gael i bawb yn yr un modd, ac mae cael mynediad at y gwasanaethau drwy sectorau iechyd a gofal yn anodd i rai. Mae cludiant cyhoeddus yn wael a’r risg y bydd gofalwyr yn teimlo’n ynysig a heb gefnogaeth hefyd yn heriau arbennig mewn ardaloedd gwledig. Mae ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor wedi cael dros hanner miliwn o bunnoedd mewn cyllid i gynnal dwy Gymrodoriaeth Ymchwil mewn Ymchwil ym maes Dementia gan Lywodraeth Cymru. Bwriad y Cymrodoriaethau hyn, a ariennir drwy Y mchwil Iechyd a Gofal Cymru , yw cynyddu’r gallu mewn ymchwil gofal ac iechyd drwy gefnogi unigolion i ddod yn ymchwilwyr annibynnol a chynnal projectau ymchwil o ansawdd uchel.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2017

Arwain y ffordd i gyflwyno Presgripsiynau dwyieithog

Mae gwasanaeth Gymraeg neu ddwyieithog yn hanfodol ar gyfer lles cleifion Cymraeg eu hiaith yn ôl ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg. Argymhelliad sydd wedi cael sêl bendith Prif Swyddog Fferyllol Cymru yw bod rhoi labeli dwyieithog ar feddyginiaethau presgripsiwn ar gael i gleifion. Mae tîm sy’n cynnwys arbenigwyr iaith a fferyllwyr ym Mhrifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cymryd y camau cyntaf drwy gyfieithu 30 canllaw rhybuddiol sydd yn cael eu rhoi i gleifion sydd ar feddyginiaeth ar bresgripsiwn.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2016

Asesu gwerth grwpiau cefnogi dementia

New ageing and dementia research at Bangor University will soon be underway, with a team from the Bangor Institute of Health and Medical Research in the School of Health Sciences being the only university in Wales to be awarded funding as part of the ESRC-NIHR Dementia Research Initiative 2018 . This programme of work, led by partners at University College London, centres around people living with rare dementias, and will involve the first major study of the value of support groups for people living with or caring for someone with a rare form of dementia.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2019

Chwech o Brifysgol Bangor yn cael eu penodi’n Uwch Arweinwyr Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae chwe ymchwilydd ym maes iechyd a gofal cymunedol ym Mhrifysgol Bangor wedi'u penodi’n Uwch Arweinwyr Ymchwil- Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2016

Chwilio am gyfranogwyr ar gyfer astudiaeth dull hyfforddi lles emosiynol 12-mis

Ym mis Ionawr 2021 roedd mwy nag un o bob pump unigolyn 16 oed a hŷn yn y Deyrnas Unedig yn profi symptomau iselder a phryder, yn sylweddol fwy nag yn 2020 (www.ons.gov.uk).

Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2021

Cost-effeithiolrwydd triniaethau i afiechydon niwrolegol

Yn ddiweddar, mae'r Athro Dyfrig Hughes a chydweithwyr yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd, wedi cyhoeddi canlyniadau tri threial clinigol ar ymyriadau epilepsi a seiatica.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2021

Cwmnïau fferyllol yn gwneud elw ar afiechydon prin

Mae ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Bangor yn dangos fod cwmnïau fferyllol yn ymelwa ar gymhellion a fwriadwyd i ddatblygu rhagor o driniaethau ar gyfer afiechydon prin er mwyn rhoi hwb i'w helw.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2016

Cwrs byr Economeg iechyd ar gyfer ymarfer ac ymchwil i Iechyd Cyhoeddus

Mae'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau o fewn yr Ysgolion Gofal Iechyd a Gwyddorau Meddygol yn cynnig cwrs byr cyntaf Prydain mewn Economeg iechyd ar gyfer ymarfer ac ymchwil i Iechyd Cyhoeddus yn y Ganolfan Rheolaeth. Cynhelir y cwrs rhwng 15-17 Ebrill.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2014

Cyn-fyfyriwr entrepreneuraidd yn cyrraedd rownd cynderfynol rhanbarthol Santander

Mae cyn-fyfyriwr doethuriaeth ac entrepreneur o Brifysgol Bangor wedi cyrraedd rownd gynderfynol ranbarthol Gwobrau Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander 2017.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2017

Datblygu dulliau economeg iechyd i werthuso ymyriadau iechyd deintyddol fel rhan o fesurau ataliol iechyd y cyhoedd

Cynhaliwyd seminar: " Datblygu amrywiaeth o ddulliau i werthuso gwasanaethau deintyddol yn economaidd: ehangu'r persbectif " a drefnwyd gan y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. Mae deall y gellir atal y rhan fwyaf o bydredd yn y dannedd, yn arbennig mewn plant ifanc, yn golygu y gellir atal y costau hefyd i raddau helaeth. Yn y flwyddyn ariannol 2015-2016, adroddodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr bod cost tynnu dannedd wedi costio dros £50.5 miliwn mewn plant rhwng 0 a 19 oed.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2019

Diogelu Data

Yn ystod 2018, newidiodd y gyfraith mewn perthynas â diogelu data. Mae gweithredu'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), a'r Ddeddf Diogelu Data 2018 newydd wedi newid y ffordd mae Prifysgol Bangor yn casglu, defnyddio a storio gwybodaeth bersonol am unigolion (data personol).

Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2018

Dyfarnu Gwobr am Wasanaethau i Ofal Iechyd Dwyieithog

Mae project i roi labeli rhybudd Cymraeg ar feddyginiaethau wedi ennill y wobr am Wasanaethau i Ofal Iechyd Dwyieithog yng Ngwobrau Cyrhaeddiad cyntaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Y partneriaid yn y project oedd Uned Dechnolegau Iaith (UTI) Canolfan Bedwyr a Chanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol Bangor, ar y cyd gyda fferyllwyr Ysbyty Gwynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2016

Efrydiaeth PhD a ariennir gan MRC yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau

Applications are invited for a Medical Research Council funded PhD studentship at the Centre for Health Economics and Medicines Evaluation, Bangor University.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2014

Exercise: we calculated its true value for older people and society

Dyma erthygl yn Saesneg gan Carys Jones, Cymrawd Ymchwil gyda'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2020

Gallai Cymru arbed biliynau o bunnau'r flwyddyn trwy fuddsoddi mewn gweithlu iachach

Mae adroddiad newydd gan y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau ( CHEME ), Prifysgol Bangor wedi dwyn ynghyd dystiolaeth o'r dadleuon economaidd dros fuddsoddi yn iechyd a lles y gweithlu yng Nghymru

Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2019

Hwb mawr i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o fethodolegwyr treialon

Mae partneriaeth i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o fethodolegwyr treialon wedi cael cyllid gan y Cyngor Ymchwil Meddygol trwy eu cystadleuaeth Doctoral Training Partnership (DTP).

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2021

Llwyddiant dwbl yng nghynhadledd yr "International Society for Pharmacoeconomics and Outcomes Research"

⁠Enillodd Emily Holmes o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor y wobr am y cyflwyniad gorau ac enillodd Dr Paul Parham, o'r un ganolfan, y wobr am y cyflwyniad gorau gan ymchwilydd newydd yn 16eg gynhadledd Ewropeaidd flynyddol yr " International Society for Pharmacoeconomics and Outcomes Research " (ISPOR) yn Nulyn ar 6 Tachwedd.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2013

Myfyriwr o Fangor yn bwriadu cael gwared â phoen cefn

Wythnos Ymwybyddiaeth Gofal Cefn 3 - 8 Hydref 2016 Mae Ned Hartfiel, myfyriwr a raddiodd gyda PhD mewn Economeg Iechyd o Brifysgol Bangor, yn gobeithio lleihau poen cefn ac absenoldeb o’r gwaith yn y DU drwy ledaenu ei raglen cefn iach drwy gwmni sydd newydd ei sefydlu ganddo.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2016

Pedwar o Fangor yn cael eu penodi i gorff Cenedlaethol newydd

Mae pedwar academydd blaenllaw ym maes iechyd o Brifysgol Bangor wedi’u penodi’n aelodau o Gyfadran Uwch y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR). Cyhoeddwyd y penodiadau gan y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2013

Pobl hŷn yn helpu tyfu economi Cymru

Mae mwy a mwy o bobl dros eu 65 oed yn byw ac yn gweithio yng Nghymru heddiw, ac mae eu cyfraniad at economi Cymru’n tyfu. Dyna mae economegwyr iechyd Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol Bangor yn ei ddweud yn eu hadroddiad Byw yn iach yn hirach: y ddadl economaidd dros fuddsoddi ym maes iechyd a lles pobl hŷn yng Nghymru heddiw (30 Gorffennaf 2018).

Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2018

Poorer children priced out of learning instruments but school music programmes benefit the wider community

Dyma erthygl yn Saesneg gan Eira Winrow, Myfyrwraig PhD a Swyddog Cefnogi Ymchwil a Rhiannon Tudor Edwards, Athro Economeg Iechyd yng Nghalonfal Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2018

Prifysgol Bangor yn derbyn cyllid i adeiladu seilwaith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol 2018-2020

Mae Grwpiau Ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR) wedi derbyn symiau sylweddol o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2017

Prifysgol Bangor yn lansio Canolfan Gwerth Cymdeithasol newydd

Ddydd Mawrth, 11 Mehefin, bydd Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor yn lansio Canolfan Gwerth Cymdeithasol newydd.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2019

Project cerddoriaeth Codi’r To yn dod â harmoni i’r cartref a gwerth cymdeithasol i ysgolion a chymunedau

Mae arfarniad economeg o werth Sistema Cymru - Codi’r To , menter gerddorol mewn dwy ysgol yng Ngwynedd, yn datgelu bod gwerth y project yn ymestyn ymhell tu hwnt chwarae offeryn cerddorol, ac wedi arwain at well harmoni i nifer o’r cartrefi a fu’n cymryd rhan. Rhoddodd y dadansoddiad Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau (SROI) a gynhaliwyd gan Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau Prifysgol Bangor (CHEME), gwerthoedd ariannol yn erbyn pob agwedd ar fuddiannau gweithgareddau Codi’r To gyda disgyblion mewn dwy Ysgol yng Ngwynedd a chanfod bod bob £1 a wariwyd yn creu gwerth cymdeithasol cyfwerth a £6.69.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2018

Staff academaidd yn cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru

Mae pedwar aelod staff academaidd o Brifysgol Bangor wedi cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2015

Treial i ateb penbleth trin epilepsi plant

Mae un o'r treialon clinigol mwyaf erioed mewn plant ag epilepsi, sydd newydd gael ei lansio, yn ceisio darganfod pa driniaeth sy'n gweithio orau i blant a'u teuluoedd. Arweinir y treial CASTLE cenedlaethol gan yr Athro Deb Pal o King's College Llundain a'r Athro Paul Gringras o Ysbyty Plant Evelina Llundain, mewn cydweithrediad â'r Athro Dyfrig Hughes o Brifysgol Bangor. Dyma'r unig dreial i gymharu cyffuriau gwrth-epileptig gyda monitro gweithredol heb unrhyw feddyginiaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2019

Trin gwenwyn clorocwin

Mae ymchwil gan yr Athro Dyfrig Hughes o Brifysgol Bangor wedi darparu tystiolaeth bwysig ynglŷn â diogelwch triniaethau sy'n cael eu profi i'w defnyddio gyda COVID-19.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2020

Ymchwil yn cynnwys Prifysgol Bangor sy'n berthnasol i adferiad llawn cleifion Covid-19 wedi ei ddyfynnu gan Senedd Ewrop

Cyhoeddwyd ymchwil gan yr Athro Dyfrig Hughes o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd ar effaith economaidd syndrom blinder cronig (CFS) - a adwaenir hefyd fel enseffalomyelitis myalgig (ME) - yn y cyfnodolyn Healthcare yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2020

Yoga in the workplace can reduce back pain and sickness absence

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Rhiannon Tudor Edwards a ned Hartfiel o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2017